Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ein tîm cymdogaeth yn Nhorfaen yn gwasanaethu mewn ardal amrywiol - o ganol trefol Cwmbrân i’r ardaloedd gwledig yn y gogledd o gwmpas Blaenafon. Torfaen yw ardal fwyaf dwyreiniol cymoedd De Cymru ac mae’n gartref i gasgliad o atyniadau ymwelwyr, gan gynnwys Safle Treftadaeth y Byd cyntaf De Cymru. Mae aceri o dir gwledig yng ngogledd y sir ac mae cyfoeth o dreftadaeth hanesyddol a diwylliannol yn yr ardal.
Dewch o hyd i’ch gorsaf neu bwynt cyswllt heddlu agosaf drwy ddefnyddio’r blwch chwilio isod.