Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Sylwch: Os gwnaethoch chi gyflwyno adroddiad digwyddiad traffig ffyrdd ar y wefan hon, byddwch yn gallu lawrlwytho copi o'ch adroddiad. Adroddiad gwrthdrawiad yw'r adroddiad hwnnw. Yna gallwch anfon yr adroddiad at eich cwmni yswiriant neu’ch cyfreithiwr. Fydd dim angen ichi wneud cais ar wahân am adroddiad gwrthdrawiad.
Os ydych yn gyfreithiwr neu'n asiant yswiriant, gallwch wneud cais ar ran eich cleient am gopi o unrhyw adroddiadau am wrthdrawiadau sydd wedi'u llunio gan yr heddlu neu’n cael eu cadw gan yr heddlu.
Os ydych yn cynrychioli eich hun mewn achos sifil, gallwch chithau hefyd wneud cais.
Dim ond ar ôl i’r achos gael ei gau y gall adroddiadau gael eu rhyddhau.
Llenwch y ffurflen isod a defnyddiwch y dulliau talu dros y ffôn neu drwy'r post a ddisgrifir yn y ffurflen.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch neges ebost.
£37.80 yw’r ffi am wneud cais.
Mae'r taliad hwn yn cynnwys copi o fanylion cyfyngedig y trydydd parti a/neu'r log digwyddiadau.