Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
I wneud cais am drwydded neu gytundeb eiddo deallusol, cliciwch ‘Dechrau’ isod i lenwi ein ffurflen ar-lein syml a chyflym.
A oes angen trwydded eiddo deallusol arnaf?
Rydych yn debygol o fod angen trwydded neu gytundeb eiddo deallusol os ydych yn bwriadu:
- defnyddio nod masnach sy’n eiddo i’r heddlu ar gyfer unrhyw ddiben
- gwneud cais am ddelwedd neu ffilm fideo sy’n eiddo i’r heddlu ar gyfer defnydd masnachol
- atgynhyrchu delwedd, dogfen neu ddarn o ffilm, y mae’r hawlfraint iddynt yn eiddo i’r heddlu, ar gyfer unrhyw ddiben
- cyfweld â swyddog mewn swydd at ddibenion masnachol, megis ymchwil ar gyfer llyfr
I gael rhagor o wybodaeth, yn cynnwys dolenni i adnoddau defnyddiol eraill, ewch i’n tudalen gyngor ar ddefnyddio eiddo deallusol Heddlu Gwent. Rhagor o gwestiynau? Cysylltwch gan ddefnyddio’r ffurflen isod.
Byddem hefyd yn ddiolchgar i glywed gennych os dewch i wybod am unrhyw unigolyn neu gwmni sy’n camddefnyddio nod masnach sy’n eiddo i’r heddlu.
Cyfartaledd amser cwblhau: pum munud