Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Cynllun Datgelu Troseddwyr Rhyw gyda Phlant yn gadael i chi ofyn i’r heddlu yn ffurfiol a oes gan rywun sydd â chysylltiad â phlentyn neu blant:
Nid yw’n ddeddf, ond mae’n cael ei galw’n ‘Gyfraith Sarah’ weithiau.
Nid bwriad Cyfraith Sarah yw caniatáu i chi riportio rhywbeth i’r heddlu. Dywedwch wrthym fan hyn am rywbeth rydych wedi'i weld neu ei glywed neu edrychwch sut i riportio achos posib o gam-drin plant fan hyn.
Rwy’n gweithio i gorff cyhoeddus ac mae angen y wybodaeth arnaf ar gyfer fy swydd
Gellir defnyddio Cyfraith Sarah ar gyfer ceisiadau am wybodaeth gan bobl nad ydynt yn weithwyr proffesiynol. Os ydych chi'n gweithio i gorff cyhoeddus ac yn gofyn am wybodaeth fel rhan o'ch swydd, dylech ddefnyddio’r trefniadau eraill sy'n bodoli’n barod.
Os ydych chi eisiau dweud wrthym am rywbeth amheus neu bryderus sy’n ymwneud ag ymddygiad rhywun tuag at blant, gallwch weld sut i riportio achos posibl o gam-drin plant.