Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Cynllun Datgelu Troseddwyr Rhyw gyda Phlant yn gadael i chi ofyn i’r heddlu yn ffurfiol a oes gan rywun sydd â chysylltiad â phlentyn neu blant:
Nid yw’n ddeddf, ond mae’n cael ei galw’n ‘Gyfraith Sarah’ weithiau.
Nid bwriad Cyfraith Sarah yw caniatáu i chi riportio rhywbeth i’r heddlu. Dywedwch wrthym fan hyn am rywbeth rydych wedi'i weld neu ei glywed neu edrychwch sut i riportio achos posib o gam-drin plant fan hyn.
Rydw i eisiau cael gwybod os oes troseddwr rhyw yn byw yn fy ardal i
Nid oes proses yn y DU i chi gael gwybod os oes troseddwr rhyw yn byw yn eich ardal chi.
Mae Cyfraith Sarah yn eich galluogi i ofyn i’r heddlu a yw person penodol sy’n treulio amser ar ei ben ei hun gyda phlentyn neu blant yn Droseddwr Rhyw Cofrestredig neu’n peri risg i’r plentyn neu’r plant.
Os ydych chi eisiau dweud wrthym am rywbeth amheus neu bryderus sy’n ymwneud ag ymddygiad rhywun tuag at blant, gallwch weld sut i riportio achos posibl o gam-drin plant.
Sut mae Troseddwyr Rhyw Cofrestredig yn cael eu rheoli