Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gennych chi hawl i ofyn inni a ydyn ni’n prosesu’ch data personol ac, os ydyn, i weld eich data personol. Yr enw ar hyn yw eich hawl i weld gwybodaeth. Mae gwneud cais yn cael ei alw’n gais hawl i weld gwybodaeth neu gais testun am weld gwybodaeth.
Erthygl 15 o GDPR y Deyrnas Unedig, yn Neddf Diogelu Data 2018 (Adran 43), sy’n rhoi'r hawl hon ichi.
Ond rydyn ni’n cael cyfyngu’ch hawl i weld gwybodaeth, yn llawn neu'n rhannol, mewn rhai amgylchiadau. Er enghraifft:
Os byddwn yn cyfyngu mynediad at eich data personol, yn llawn neu'n rhannol, fe ddwedwn ni pam. Fyddwn ni ddim yn dweud wrthoch chi os byddai hynny’n tanseilio'r rheswm dros y cyfyngiad.
Mae gennych chi hawl i apelio at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gallwch hefyd gyflwyno cwyn. Os ydych chi'n credu ein bod wedi torri’r deddfau diogelu data, gallwch fynd â ni i'r llys.
Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth ar gael yma:
Hawl i gywiro (newid neu ddiweddaru)
Hawl i ddileu (dileu gwybodaeth)
Hawl i gyfyngu prosesu
Hawl i wrthwynebu
Caiff plant wneud cais am weld eu data personol. Mae’n rhaid eu bod yn gallu deall eu hawliau a gwneud y cais yn ddi-rwystr. Byddwn yn ymateb yn uniongyrchol i'r plentyn. Pan fo hynny er lles y plentyn, byddwn yn derbyn cais oddi wrth riant neu warcheidwad ac yn ymateb iddyn nhw.
I wneud cais ar ran rhywun arall, mae angen ichi ofyn iddyn nhw lenwi a llofnodi ffurflen ganiatâd trydydd parti (PDF, 106KB) er mwyn rhoi eu caniatâd. Mae angen ichi uwchlwytho naill ai llun neu sgan o'r ffurflen wedi'i llenwi neu ei rhannu gyda ni pan fyddwch yn gwneud eich cais.
Rhaid i'r llofnod ar y ffurflen gyd-fynd â'r llofnod ar eu dogfen adnabod (ID).
Nid yw cyflogwyr yn cael gofyn i weithwyr neu gontractwyr gyflwyno cais am ddata personol fel amod cyflogaeth neu amod mewn contract. Mae hefyd yn drosedd i unrhyw un ofyn ichi wneud hynny os ydych yn darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau.
Does dim rhaid ichi lenwi’r cais isod. Ond os gwnewch chi, mae'n rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnon ni i'n helpu i ymateb i'ch cais yn gynt. Beth bynnag, mae angen ichi roi digon o wybodaeth inni i'n helpu i ddod o hyd i’ch data personol.
Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennym lawer o ddata neu pan fo gennym lawer o ddata. Os na fyddwch chi’n rhoi digon o wybodaeth inni, gall hyn ohirio’n hymateb i'ch cais.
Byddwn yn cadarnhau ein bod wedi cael eich cais. Fel arfer rydyn ni'n ymateb o fewn 30 diwrnod. Ond fe all gymryd hyd at ddeufis yn ychwanegol. Er enghraifft:
Mae hyn yn cyd-fynd â rheolau’r GDPR.
Os nad ydych chi’n fodlon â'r ffordd rydym yn trin eich cais, gallwch ofyn am adolygiad mewnol. Rhaid ichi wneud hyn o fewn dau fis ar ôl dyddiad datgelu’r wybodaeth.
Gallwch wneud cais am adolygiad drwy’r ebost neu drwy ysgrifennu aton ni:
Y Goruchwylydd Datgeliadau
Yr Adran Diogelu Data
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 2PF