Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae amgylchiadau pob trosedd yn unigryw, felly gall sut rydym yn ymchwilio pob un amrywio. Fodd bynnag, rydym yn trin adroddiadau am droseddau yn ddifrifol ac yn ymchwilio i bob un yn ddiduedd. Bydd pob ymchwiliad yn dechrau gyda’r un camau sylfaenol er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn casglu’r holl wybodaeth berthnasol ac yn eich gwybodus.
Isod fe welwch beth sy’n digwydd wedi i chi riportio am drosedd, pryd y gallwch ddisgwyl derbyn rhif cyfeirnod trosedd a pha mor aml fyddwn ni’n cysylltu â chi.
Yn gyntaf, byddwn yn gwneud yn siŵr mai ni yw’r heddlu cywir i ymchwilio’r drosedd yr ydych wedi adrodd amdani. Er enghraifft, os digwyddodd mewn gorsaf drenau, byddai’n fater i Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Mewn achos o’r fath byddem yn anfon eich adroddiad atynt a byddant hwy’n parhau gyda’r ymchwiliad.
Unwaith ein bod wedi penderfynu mai ni yw’r heddlu cywir, byddwn yn rhoi rhif cyfeirnod trosedd i chi. Mae pa mor gyflym y gallwn wneud hyn yn dibynnu ar ba mor gymhleth yw’r digwyddiad a nifer yr awdurdodau eraill sy’n rhan ohono.
Yna byddwn yn cynnal ‘asesiad ymchwiliol’. Dyma pryd y byddwn yn adolygu’r holl wybodaeth yr ydym wedi’i chasglu ac yn penderfynu a ydym am ymchwilio ymhellach i’ch adroddiad.
Rydym yn seilio ein penderfyniad ar bedwar ffactor allweddol:
Yna byddwn yn cynnal ymchwiliad cychwynnol. Gallai hyn olygu:
Mae dau ganlyniad posibl i asesiad ymchwiliol. Unwaith ein bod wedi gwneud penderfyniad, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio a chynnig unrhyw gyngor, os bydd angen.
Os byddwn yn penderfynu ymchwilio ymhellach i’ch achos byddwn yn neilltuo swyddog ymchwilio i chi. Y swyddog fydd eich un pwynt cyswllt yn ystod yr ymchwiliad, ac ef neu hi fydd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ac yn eich diweddaru am ddatblygiad yr achos.
Os bydd angen i chi roi datganiad, bydd y swyddog yn egluro’r drefn i chi.
Os byddwn yn penderfynu cau’r ymchwiliad, bydd hynny mwy na thebyg oherwydd ein bod wedi cwblhau ein camau cychwynnol ac nad oes unrhyw wybodaeth arall y gallwn yn gymesur ei dilyn ar y pryd.
Weithiau byddwn yn derbyn tystiolaeth newydd neu’n dod o hyd i dystiolaeth newydd, ac os felly gallwn ailagor yr ymchwiliad ac anfon diweddariad atoch.
Os bydd hyn yn digwydd ai peidio, bydd eich adroddiad a’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu fel rhan o’r ymchwiliad yn dod yn rhan hollbwysig o sut rydym yn plismona. Mae’n ein helpu i benderfynu ble a phryd yr ydym yn defnyddio adnoddau’r heddlu i ganfod ac atal troseddau.
Os, mewn amgylchiadau annhebygol, y bydd angen i chi fynd i’r llys, bydd y Swyddog yn eich cyflwyno i aelod o’r Uned Gofal Tystion a fydd yn eich arwain drwy bob cam o’r broses.