Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os yw anifail wedi cael ei drin yn wael gall fod yn beryglus i’r cyhoedd ac i anifeiliaid eraill. Gallwch ganfod sut i gadw’n ddiogel rhag anifeiliaid ffyrnig neu rai a esgeuluswyd, eu riportio a’n helpu ni i ddwyn eu perchnogion i gyfrif.
Mae rhai perchnogion anifeiliaid, yn arbennig perchnogion cŵn, yn eu hyfforddi i fod yn ymosodol ac yn eu defnyddio i fygwth neu frawychu pobl eraill. Gallai hyn fod naill ai tra’u bod yn mynd â’r anifail am dro, neu drwy ei adael wedi’i glymu mewn man cyhoeddus.
Os byddai person agored i niwed neu anifail arall yn mynd o fewn cyrraedd iddo, neu pe bai’r anifail yn dod yn rhydd, gallai beri perygl difrifol i’r cyhoedd.
Mae rhai anifeiliaid yn cael eu bridio a’u hyfforddi i gymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon megis ymladd cŵn, hela ysgyfarnog a baetio moch daear. Nid yn unig y gall hyn wneud niwed i’r anifail dan sylw, bydd yn aml yn arwain at anifeiliaid eraill yn cael eu herlid, cam-drin, anafu a’u lladd am hwyl.
Fel pob math o drais, os caiff ei anwybyddu gallai’r sefyllfa waethygu. Byddai mwy o bobl yn prynu ac yn magu anifeiliaid ffyrnig er mwyn peidio â chael eu brawychu gan anifeiliaid pobl eraill.
Nid yn unig y byddai hyn yn creu cymunedau mwy bygythiol a llai diogel byddai hefyd yn golygu cynnydd enfawr yn niferoedd yr anifeiliaid sy’n cael eu cam-drin a’u harteithio. Allwn ni ddim gadael i hyn ddigwydd.
Os ydych wedi gweld anifail ffyrnig neu un sydd allan o reolaeth, neu berchennog yn defnyddio anifail i frawychu pobl, riportiwch ymddygiad gwrthgymdeithasol wrthym ni.
Yn yr un modd, os gwyddoch am rywun sy’n defnyddio anifeiliaid mewn gweithgareddau anghyfreithlon megis ymladd cŵn, riportiwch ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Er mwyn riportio anifail strae neu anifail wedi’i adael sydd wedi’i anafu cysylltwch â’ch milfeddygfa leol neu’r RSPCA naill ai ar 0300 12234 999 neu drwy wefan RSPCA. Os yw’r sefyllfa yn gofyn am hynny, bydd yr elusen yn cysylltu â ni am gymorth.
Os byddwch yn dod o hyd i gi strae sydd ddim yn sâl nac wedi’i anafu, riportiwch hynny wrth eich cyngor lleol.
Os byddwch chi’n dod o hyd i anifail strae a’ch bod yn credu ei fod ar goll, ewch i Find a Scan Angel yn Microchip Central. Gallwch ddod o hyd i wirfoddolwr lleol a fydd yn sganio’r anifail am ficrosglodyn. Mae hwn yn wasanaeth am ddim na ddylai byth godi tâl am gymorth.