Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae defnydd gwrthgymdeithasol o gerbyd, megis rasio ar strydoedd, criwsio strydoedd neu ddefnyddio cerbyd oddi ar y ffordd yn fwy na dim ond problem llygredd sŵn – er mai hon yn aml fydd y broblem y sylwir arni fwyaf. Isod cewch wybodaeth am y gwahanol fathau o niwsans cerbydau, eu heffaith hirdymor ar gymdogaeth a’r hyn y gallwch ei wneud ynglŷn â’r mater.
Rasio ar strydoedd yw rasio anghyfreithlon unrhyw fath o gerbyd ar ffordd gyhoeddus.
Mae rasio ar strydoedd yn beryglus dros ben gan y gall gynnwys cyflymder mawr, gwibio drwy draffig ac anwybyddu arwyddion traffig megis golau coch. Mae hwn wrth reswm yn golygu bod defnyddwyr eraill y ffyrdd ac aelodau’r cyhoedd mewn sefyllfa beryglus iawn.
Yr unig adeg y caniateir rasio ar strydoedd yw pan fo’r trefnydd wedi cael caniatâd ymlaen llaw gan yr heddlu fel rhan o ddigwyddiad wedi’i drefnu.
Criwsio strydoedd yw pan fydd grŵp o berchnogion cerbydau yn ffurfio rhes ac yn gyrru i fyny ac i lawr stryd neu o amgylch cymdogaeth - fel arfer er mwyn arddangos eu ceir neu feiciau. Yn aml byddant yn gyrru’n araf a hyd yn oed yn gyrru ar ddwy ochr y ffordd. Gall hyn oedi traffig sydd y tu ôl iddynt a gwneud pethau’n anodd iawn i ddefnyddwyr eraill y ffordd.
Mae’n groes i’r gyfraith yn y DU i reidio ‘hoverboard’, beiciau mini, sgwteri modur megis GoPeds a e-sgwteri ar ffyrdd cyhoeddus a phalmentydd. Mae’r un peth yn wir am feiciau ‘gwlad’, beiciau tair olwyn a beiciau cwad oni bai bod ganddynt blatiau cofrestru dilys.
Dim ond ar ffyrdd a thir preifat y gellir defnyddio’r mathau hyn o gerbydau a hynny gyda chaniatâd perchennog y ffordd neu’r tir.
Mewn ardaloedd lle mae cynllun rhentu yn cael ei dreialu, mae’n gyfreithlon defnyddio e-sgwter wedi’i rentu ar ffordd gyhoeddus neu mewn lôn feiciau, cyn belled bod gennych y drwydded gywir a’ch bod yn dilyn rheoliadau traffig ffordd. Dilynwch ein cyngor ar ddefnyddio e-sgwteri.
Er bod beiciau cwad, beiciau tair olwyn, beiciau gwlad a rhai cerbydau dwy olwyn eraill wedi’u hadeiladu ar gyfer eu defnyddio oddi ar y ffordd, mae’n groes i’r gyfraith i’w reidio mewn parciau cyhoeddus neu ar dir sy’n eiddo cyhoeddus heb ganiatâd gan yr awdurdod lleol.
Fel gyda cherbydau pŵer didrwydded, gellir ond defnyddio’r rhain ar ffyrdd neu dir preifat gyda chaniatâd perchennog y ffordd neu’r tir.
Gall perfformio styntiau a thriciau megis ‘doughnuts’ a ‘wheelies’, boed hynny ar ffyrdd cyhoeddus neu mewn meysydd parcio, fod yn beryglus i’r gyrrwr neu’r reidiwr a’r rheini sydd gerllaw. Gall hefyd achosi sŵn niwsans, yn arbennig os yw’n digwydd gyda’r hwyr mewn ardaloedd preswyl.
Oherwydd hyn, ni chaniateir y math hwn o ymddygiad oni bai fel rhan o ddigwyddiad sydd wedi’i drefnu gyda chaniatâd ymlaen llaw gan yr awdurdod lleol.
Mae rhai pobl yn ystyried y math hwn o ddefnydd cerbydau fel ychydig o hwyl ddiniwed. Fodd bynnag, gall defnydd cerbydau mewn modd gwrthgymdeithasol yn rheolaidd gael effaith ehangach ar gymdogaeth neu gymuned na dim ond niwsans sŵn.
Gall effaith defnydd peryglus neu ddiofal cerbyd arwain at ddifrod troseddol i ffyrdd, cerbydau eraill ac eiddo cyfagos.
Mae gyrwyr a reidwyr hefyd mewn perygl o anafu eu hunain, defnyddwyr eraill y ffyrdd, beicwyr a cherddwyr gan nad oes ganddynt reolaeth lwyr dros eu cerbyd ac nid yw eu sylw’n llwyr ar yr hyn sydd o’u cwmpas.
Gall gyrru neu reidio yn y modd hwn hefyd gael ei ddefnyddio fel ffordd o frawychu, naill ai defnyddwyr eraill y ffyrdd neu’r gymuned. Gellir ystyried sŵn uchel o injans a cherddoriaeth, a chreu llawer iawn o fwg o bibell wagio neu deiars yn fwriadol hefyd gael ei ystyried yn weithred ymosodgar.
Yn olaf, mae defnydd beiciau modur a mopedau i ddwyn (neu ‘gipio') ffonau symudol ac eitemau gwerthfawr oddi ar gerddwyr ar balmentydd yn bryder penodol i’r heddlu. Felly mae unrhyw un sy’n ymddwyn yn ddiofal ar y math hwn o gerbyd yn debygol o dynnu sylw’r heddlu.
Os ydych chi’n adnabod y bobl sy’n rhan o’r digwyddiad, neu eu bod yn ymddangos yn rhai hawdd siarad â hwy, ein cyngor cyntaf fyddai siarad yn heddychlon gyda nhw neu adael nodyn cwrtais iddynt. Credwch neu beidio, efallai nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn achosi problem.
Fodd bynnag, peidiwch â chymryd y gyfraith yn eich dwylo eich un drwy ymyrryd, megis diffodd eu cerddoriaeth, gwneud bygythiadau corfforol neu geisio cymryd eitemau oddi arnynt. Efallai y byddwch yn gwaethygu’r sefyllfa neu’n cyflawni trosedd eich hun.
Os nad yw siarad wedi gweithio, neu byddai’n well gennych beidio â siarad â nhw, mae dwy ffordd y gallwch gysylltu: