Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel yn cynnwys ystod o eitemau y gallai pobl eu gwaredu mewn man cyhoeddus, yn amrywio o beiriannau mawr megis oergelloedd i offer cyffuriau fel nodwyddau a chwistrellwyr. Isod cewch ragor o wybodaeth, yn cynnwys beth allwch chi ei wneud er mwyn helpu i lanhau eich cymuned.
Er y bydd yr heddlu yn gweithredu os byddwn yn ei weld yn digwydd, dylid riportio achos o daflu sbwriel fel arfer wrth eich cyngor lleol a fydd yn gallu trefnu i symud y sbwriel.
Mae taflu sbwriel cyffredinol yn cynnwys dympio sbwriel y cartref, naill ai mewn bagiau plastig neu fel eitemau unigol. Mae hefyd y cynnwys cŵn yn baeddu mewn mannau cyhoeddus.
Tipio anghyfreithlon yw dympio eitemau mawr neu wastraff yn anghyfreithlon ar ffyrdd cyhoeddus, tir cyhoeddus neu mewn afonydd. Gallai hyn gynnwys peiriannau cartref mawr fel peiriannau golchi neu ddeunyddiau sydd ddim eu hangen o safle adeiladu.
Mae eitemau a ddefnyddir i gymryd cyffuriau, cyffuriau wedi’u taflu ac eitemau a ddefnyddir yn ystod rhyw, megis condomau, yn peri risg iechyd difrifol i’r cyhoedd yn gyffredinol. Bydd eich cyngor lleol am symud y rhain a gwneud yr ardal yn ddiogel.
Gall tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel beryglu iechyd, heb sôn eu bod yn anharddu’r ardal. Gall achosi arogleuon amhleserus, denu plâu a chreu amgylchedd peryglus i blant, anifeiliaid anwes a bywyd gwyllt yn arbennig.
Rydym wedi canfod os na ymdrinnir â’r broblem yn gyflym, gall arwain at gynnydd mewn tipio anghyfreithlon yn yr ardal, gan wneud yr ardal amhleserus ac anniogel hyd yn oed yn fwy ac yn fwy amlwg.
Os ydych wedi gweld pobl yn taflu sbwriel neu’n gadael llanast yn gyhoeddus, peidiwch â cheisio symud y sbwriel eich hun rhag ofn bod eitemau miniog neu beryglus yn eu canol. Cysylltwch â’ch cyngor lleol a fydd yn trefnu i’r sbwriel gael ei symud.
Os ydych wedi gweld rhywun yn tipio’n anghyfreithlon neu’n cael gwared ar offer yn ymwneud â chyffuriau, tynnwch lun o’r eitemau sydd wedi’u gadael os yn bosibl, a dod o hyd i'r gwasanaeth riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol cywir gan ddefnyddio ein hofferyn ar-lein.