Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Efallai na fydd ymddygiad niwsans gan grwpiau o bobl, megis yfed alcohol yn y stryd neu dresmasu ar eiddo preifat bob amser yn fater i’r heddlu. Fodd bynnag, weithiau gall gweithgaredd o’r fath arwain at ymddygiad troseddol a pheri risg i’r gymuned yn ehangach ac yna bydd angen ein cynnwys ni. Yma gallwch ganfod y mathau mwyaf cyffredin o ymddygiad niwsans a’r hyn y gallwch ei wneud am y peth.
Nid yw hi bob amser yn drosedd i yfed alcohol yn y stryd. Fodd bynnag, gall unigolion neu grwpiau o bobl yn yfed alcohol gyda’i gilydd weithiau arwain at ymddygiad stwrllyd neu aflonyddol.
Tresmasu yw pan fydd rhywun ar eiddo preifat neu’n teithio ar draws eiddo preifat heb ganiatâd y perchennog. Mae hyn yn cynnwys tir ac adeiladau preifat.
Gall dod o hyd i rywun yn tresmasu ar eich eiddo beri pryder, ac efallai y cewch eich temtio i alw’r heddlu ar unwaith. Fodd bynnag, oni bai eich bod yn credu bod y tresmaswr wedi achosi, neu’n bwriadu achosi, difrod neu niwed, mater ar gyfer eich cyngor lleol yn hytrach na’r heddlu yw hwn.
Nid yw pobl yn ymgasglu’n gyhoeddus yn drosedd. Fodd bynnag, os yw alcohol neu gyffuriau yn rhan o’r digwyddiad gall hyn weithiau arwain at sŵn sy’n tarfu. Yna gall hyn ddatblygu i fod yn ymddygiad ymosodol, treisgar neu anweddus, megis brawychu, cam-drin yn eiriol y bobl sy’n pasio, ymladd neu pasio dŵr yn gyhoeddus. Mae pob un o’r rhain yn droseddau.
Os yw pobl yn yfed neu’n cymryd cyffuriau efallai y byddent yn gadael sbwriel ar eu holau, yn cynnwys deunyddiau peryglus megis nodwyddau, chwistrellwyr, swabiau, papurau lapio a blychau nwy. Mae hyn yn peri pryder penodol gan y gall achosi risg i iechyd aelodau eraill o’r cyhoedd, anifeiliaid anwes a bywyd gwyllt.
Os ydych chi’n adnabod y bobl sy’n rhan o’r digwyddiad, neu eu bod yn ymddangos yn rhai hawdd siarad â nhw, ein cyngor cyntaf fyddai siarad yn heddychlon gyda nhw. Wedi’r cyfan, efallai nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn achosi problem. Os ydynt yn tresmasu ar eich eiddo mae gennych hawl i ofyn iddynt adael.
Fodd bynnag, peidiwch â chymryd y gyfraith yn eich dwylo eich hun drwy ymyrryd, megis eu bygwth yn gorfforol neu geisio cymryd eitemau oddi arnynt. Efallai y byddwch yn gwaethygu’r sefyllfa neu hyd yn oed yn cyflawni trosedd eich hun.
Os nad yw siarad wedi gweithio, neu y byddai’n well gennych beidio siarad â’r bobl, mae nifer o ffyrdd i gael cymorth a chefnogaeth.