Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych yn anfodlon ar y canlyniad neu'r ffordd y cafodd eich achos ei drin, mae'n bosibl y gallwch wneud cais am naill ai:
Mae’r cwestiwn a gaiff eich cais ei drin fel apêl ynteu adolygiad yn dibynnu ar y dyddiad y cafodd eich cwyn ei gwneud. Y rheswm am hyn yw bod deddfau newydd wedi dod i rym ers 1 Chwefror 2020 yn disodli'r hen hawl i apelio gyda hawl newydd i gael adolygiad.
Efallai bod gennych hawl i apelio. Cewch wybod am eich hawl i apelio a sut i wneud apêl yn eich llythyr canlyniad, a fydd yn cael ei anfon atoch ar ôl inni ymdrin â'ch cwyn. Rhagor o wybodaeth am wneud apêl.
Gallwch wneud cais am hawl i gael adolygiad os ydych yn anfodlon ar ganlyniad eich cwyn neu'r ffordd y cafodd ei thrin.
Mae adolygiadau’n cael eu cynnal naill ai gan eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) lleol, neu gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) mewn achosion difrifol. Mae hyn yn golygu y bydd angen inni rannu'r wybodaeth a gasglwyd gennym fel rhan o'r broses datrys cwynion gyda'r corff adolygu.
Cewch wybodaeth am eich hawl i gael adolygiad a pha gorff y mae angen ichi wneud cais iddo yn eich llythyr canlyniadau. Anfonwn y llythyr hwn atoch ar ôl inni ymdrin â'ch cwyn.
Bydd angen ichi wneud cais o fewn 28 diwrnod neu fydd eich cais ddim yn cael ei dderbyn, oni bai bod amgylchiadau eithriadol ynglŷn â’r oedi.
Fe all y bydd adegau pan na fydd gennych hawl i gael adolygiad, er enghraifft, os nad effeithiodd y digwyddiad rydych chi’n cwyno amdano arnoch chi’n uniongyrchol. Bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau pob cwyn. Bydd hyn yn cael ei egluro i chi yn eich llythyr canlyniad.
Os nad ydych chi'n siŵr beth i'w wneud nesaf neu os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r CHTh perthnasol, yr IOPC neu sefydliad fel Cyngor ar Bopeth yn lleol. Gallwch siarad â chynghorydd cyfreithiol hefyd.