Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Sylwch: mae’r wybodaeth hon wedi’i bwriadu ar gyfer unrhyw un a wnaeth gŵyn cyn 1 Chwefror 2020.
Efallai y byddwch yn gallu apelio os ydych yn anfodlon ar ganlyniad y broses datrysiad lleol.
Ymdrinnir â'ch apêl gan y Swyddog Apeliadau Annibynnol, sy'n uwch swyddog heddlu ac sy'n annibynnol ar y swyddogion sy'n rhan o'r gŵyn. Mewn rhai achosion bydd eich apêl yn cael ei thrafod gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, er enghraifft os yw’ch apêl yn apêl yn erbyn uwch swyddog.
Bydd y llythyr sy'n nodi canlyniad eich datrysiad lleol yn rhoi'r llwybr apelio cywir ichi.
Gallwch apelio ynghylch y ffordd y cafodd datrysiad lleol eich cwyn ei drin os na wnaeth y rheolwr gwblhau'r cynllun gweithredu y cytunwyd arno.
Chewch chi ddim apelio yn erbyn proses y datrysiad lleol. Mae hyn yn golygu na chewch apelio am eich bod heb gytuno i ddatrysiad lleol neu am fod rhyw bwynt heb gael ei egluro’n llawn ichi.
Gallwch gwblhau apêl yn erbyn canlyniad datrysiad lleol drwy ddefnyddio’n ffurflen ar-lein.
Rhaid i bob apêl ddod i law o fewn 28 diwrnod i'r diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr gan yr Adran Safonau Proffesiynol yn rhoi canlyniad eich cwyn i chi. Mae hyn yn cynnwys yr amser y mae eich llythyr yn ei dreulio yn y post.
Efallai y gallwn ymestyn y cyfnod amser hwn os oes gennych amgylchiadau arbennig iawn, ac os gallwch egluro'ch rhesymau dros ofyn am estyniad yn llawn.
Anfonwn lythyr atoch i ddweud ein bod wedi cael eich ffurflen apêl. Sylwch: yn ystod y broses apelio, fyddwn ni ddim yn ailymchwilio i'ch cwyn wreiddiol; adolygu canlyniad eich cwyn wnawn ni.
Os caiff eich apêl ei chadarnhau, byddwn yn cyfarwyddo'r awdurdod priodol ynglŷn â'r hyn y dylai ei wneud ynghylch eich cwyn. Rhaid i'r awdurdod priodol ddilyn y cyfarwyddiadau hyn. Byddwn yn dweud wrthych mewn ysgrifen am y cyfarwyddiadau a roddwn i'r awdurdod priodol ac yn egluro beth sy'n digwydd nesaf.
Os na chaiff eich apêl ei chadarnhau, ysgrifennwn atoch i esbonio sut y gwnaethom ein penderfyniad a pham.
Os ydych chi'n dal yn ansicr beth i'w wneud nesaf neu os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu neu sefydliad fel Cyngor ar Bopeth yn lleol. Gallwch siarad â chynghorydd cyfreithiol hefyd.
Cliciwch ar 'Dechrau’ isod i fynd i’n ffurflen ar-lein a chyflwyno apêl.