Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dysgwch beth sy'n gymwys fel cwyn, pryd y cewch chi wneud cwyn a'r ffordd orau i wneud hynny.
Cewch gwyno i heddlu am rywbeth sydd wedi cael effaith negyddol arnoch, megis achosi unrhyw fath o golled, difrod, trallod neu anghyfleustra. Mae hyn yn cynnwys safonau plismona cyffredinol, unrhyw wasanaeth a gawsoch gan yr heddlu neu sut rydym yn defnyddio’n hadnoddau.
Gall cwynion gael eu gwneud am unigolion sy'n gweithio i'r heddlu, gan gynnwys swyddogion sy’n gwasanaethu, aelodau o staff yr heddlu, contractwyr a gwirfoddolwyr, neu am y gwasanaeth a ddarperir gan yr heddlu fel sefydliad
Os yw’ch cwyn yn ymwneud â'r heddlu fel sefydliad, mae’n rhaid bod y mater rydych chi'n cwyno amdano wedi effeithio arnoch chi’n uniongyrchol.
Os yw’ch cwyn yn ymwneud â pherson, mae’n rhaid i chi fod wedi gweld eu gweithredoedd neu wedi cael eich effeithio'n uniongyrchol ganddynt.
Er enghraifft, chewch chi ddim cwyno am fideo rydych chi wedi'i weld ar ffôn symudol neu'r cyfryngau cymdeithasol sy'n cynnwys pobl nad ydych chi'n eu hadnabod neu ddigwyddiad lle nad oeddech chi’n bresennol.
I wneud cwyn am brif gwnstabl heddlu, cysylltwch â'ch Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) lleol.
I wneud cwyn nad yw'n ymwneud â phrif gwnstabl heddlu, gallwch naill ai gwyno i ni’n uniongyrchol neu gysylltu â Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), a fydd yn anfon eich cwyn at yr heddlu perthnasol neu at y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar eich rhan.
Hefyd, gallwch ofyn i unrhyw un arall wneud cwyn ar eich rhan, cyn belled â'ch bod yn rhoi’ch caniatâd iddynt mewn ysgrifen.
Sut i gwyno i ni:
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, gallwn gynnig cymorth cyfieithu i'ch helpu i wneud eich cwyn.
Os oes gennych anabledd neu anhawster ynglŷn â chyfathrebu ysgrifenedig neu lafar gallwn eich cefnogi.