Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Y diffiniad cyfreithiol o gam-drin domestig yw: unrhyw ddigwyddiad o ymddygiad sy’n rheoli, gorfodi neu’n fygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng rhai 16 oed neu hŷn sydd â ‘chysylltiad personol’, waeth beth fo’u rhyw neu rywioldeb.
Gall cam-drin domestig fod yn, ond nid yw’n gyfyngedig i, gam-drin:
Mae enghreifftiau o bobl sydd â ‘chysylltiad personol’ yn cynnwys:
Mae cam-drin domestig hefyd yn cynnwys cam-drin ar sail anrhydedd a phriodas dan orfod.
Mae gan wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron ddadansoddiad o'r mathau o gamdriniaeth ddomestig.
Mae un digwyddiad yn unig yn cyfrif fel camdriniaeth.
Gall camdriniaeth ddomestig effeithio ar unrhyw un waeth beth fo'u hethnigrwydd, eu hoed, eu rhyw, eu rhywioldeb neu eu cefndir cymdeithasol.
Os ydych chi’n dioddef camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol neu ariannol, neu'n cael eich bygwth, eich brawychu neu’ch stelcio gan bartner presennol neu flaenorol neu aelod agos o'r teulu, mae'n debygol eich bod yn dioddef camdriniaeth ddomestig.
Nid chi sydd ar fai am beth sy'n digwydd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
Gallwch riportio hyn i ni neu, os nad ydych chi’n barod i siarad â'r heddlu, gallwch gysylltu â sefydliadau cymorth a fydd yn eich helpu.
Mae gennyn ni restr o sefydliadau cymorth cenedlaethol a lleol a all helpu.