Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth yw ffugiad dwfn |
2. Beth gallwch chi ei wneud: riportio'r peth i ni |
3. Riportio'r peth i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol os digwyddodd y peth ar-lein |
4. Help a chymorth |
Cynnwys sydd wedi’i greu ac wedi’i addasu’n ddigidol yw ffugiadau dwfn ac yn aml maen nhw ar ffurf delweddau, fideos a recordiadau sain ffug.
Weithiau, gall y cynnwys ffug dwfn yma edrych yn union debyg i rywun go iawn – efallai chi neu rywun rydych chi'n ei nabod.
Dyw ffugiadau dwfn ddim bob amser yn niweidiol neu’n anghyfreithlon, ond mae modd eu defnyddio nhw at ddibenion maleisus a throseddol.
Mae'n anghyfreithlon rhannu neu fygwth rhannu lluniau neu fideos personol o rywun heb eu caniatâd ac mae hyn yn cynnwys ffugiadau dwfn.
Mae'n anghyfreithlon gwneud, rhannu a meddu ar ffotograffau a ffug-ffotograffau a/neu fideos, anweddus, gan gynnwys ffugiadau dwfn, o rywun sydd o dan 18 oed.
Does dim ots a ydy'r person sy’n cael ei ddangos yn real neu’n ffugiad sydd wedi'i greu neu wedi’i addasu’n ddigidol.
Mae'n anghyfreithlon i rywun weithredu mewn ffordd sy'n fygythiol ac wedi'i bwriadu i ysgogi casineb trwy negeseuon, lluniau a fideos.
Gallai hyn fod yn ddelwedd neu fideo ffug dwfn sy'n cynnwys negeseuon sy'n galw am drais yn erbyn person neu grŵp penodol, neu ddelweddau a/neu fideos ffug dwfn sy'n dangos trais yn erbyn rhywun.
Defnyddio ffugiad dwfn i'ch twyllo chi, i ennill mantais, fel cymryd eich arian neu ddysgu gwybodaeth breifat amdanoch chi.
Gall ffugiadau dwfn gael eu defnyddio i anfon negeseuon ffug, er enghraifft eich dangos chi neu rywun rydych chi'n ei nabod yn gwneud rhywbeth sydd heb ddigwydd mewn gwirionedd.
Os yw hyn yn cael ei wneud gan rywun sy'n gwybod bod hyn yn ffug a’u bod nhw’n awyddus i achosi niwed difrifol, naill ai'n emosiynol neu'n gorfforol, gall fod yn anghyfreithlon.
Os yw'r ffugiad dwfn yn hybu, yn gogoneddu neu'n helpu i gyflawni gweithredoedd terfysgol ac eithafiaeth dreisgar, dylech riportio hyn i'r heddlu.
Os oes rhywun yn gwneud rhywbeth dro ar ôl tro (gan gynnwys defnyddio ffugiadau dwfn) sy'n gwneud ichi deimlo'n ofnus, yn ofidus, dan fygythiad neu'n anniogel, yna gallwch ei riportio.
Os oes ffugiad dwfn yn cael ei ddefnyddio i’ch blacmelio chi neu rywun rydych chi'n ei nabod, mae hyn yn drosedd.
Os bydd rhywun yn bygwth rhannu lluniau, fideos neu wybodaeth rywiol amdanoch chi sydd wedi’u ffugio’n ddwfn oni bai eich bod yn talu arian neu'n gwneud rhywbeth arall nad ydych chi eisiau ei wneud, yr enw ar hyn yw blacmel rhywiol.
Os ydych chi wedi dioddef oherwydd ffugiad dwfn anghyfreithlon rydyn ni’n deall y gall hynny fod yn frawychus, yn ofidus neu beri embaras.
Os ydych chi'n credu eich bod chi wedi dioddef trosedd sy'n ymwneud â ffugiad dwfn, neu o bosibl wedi dioddef felly, mae yna bethau y gallwch eu disgwyl gan yr heddlu a ffyrdd o gael cymorth. Rydyn ni’n deall bod hyn yn cymryd dewrder, ond riportio’r peth i ni yw'r cam cyntaf.