Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae stopio a chwilio’n parhau i fod yn bŵer hynod bwysig i’r heddlu er mwyn diogelu’r cyhoedd, mynd i’r afael â throseddu a chadw ein strydoedd yn ddiogel.
Rhaid defnyddio stopio a chwilio mewn modd teg ac effeithiol sy’n cynnal hyder y cyhoedd ac y craffir yn annibynnol arno.
Nid ydym yn tanbrisio’r effaith y caiff stopio a chwilio ar gymunedau ac unigolion. Gwyddom fod angen defnyddio’r pŵer mewn modd teg ac effeithiol er mwyn cynnal hyder y cyhoedd yn ei ddefnydd.
Y prif reswm dros ddefnyddio’r dull stopio a chwilio yw caniatáu i swyddogion ymchwilio i'w hamheuon am unigolyn heb orfod arestio’r unigolyn.
Mae effeithiolrwydd stopio a chwilio yn ymwneud lawn cymaint ag osgoi arestio’n ddiangen â datrys trosedd.
Mae defnydd o gamerâu fideo a wisgir ar y corff yn helpu i dawelu meddwl y cyhoedd bod eu cysylltiad â’r heddlu yn cael ei recordio. Mae’r dechnoleg yn cynnig mwy o dryloywder i’r rheini sydd o flaen y camera yn ogystal â’r rheini y tu ôl iddo.
Bydd y camerâu yn galluogi swyddogion i ddangos proffesiynoldeb a chasglu tystiolaeth yn wyneb nifer o heriau.
Credwn fod stopio a chwilio yn fwyaf tebygol o fod yn deg ac effeithiol:
Mae ein prif gwnstabl yn cefnogi defnyddio stopio a chwilio mewn modd teg ac effeithiol sy’n gwella hyder y cyhoedd ac y craffir arno’n annibynnol.
Byddwn yn parhau i weithio gyda’n cymunedau a’n rhanddeiliaid i wella ansawdd y rhyngweithio a sicrhau bod stopio a chwilio yn parhau i ddiogelu’r cyhoedd.
Cynllun gan y Llywodraeth yw BUSSS, yr ydym yn cydymffurfio ag ef, i fynd i’r afael â materion tegwch a chyfreithlondeb.
I gael gwybodaeth am y cynllun, ewch i dudalen BUSSS.