Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydych chi’n chwilio am gymorth neu wybodaeth? Ydych chi eisiau rhoi gwybod i ni am rywbeth neu riportio digwyddiad? Defnyddiwch ein hofferyn syml isod i weld beth yw’r ffordd orau i gysylltu.
Ffoniwch 999 yn yr amgylchiadau canlynol:
Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000.
Neu tecstiwch ni ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), defnyddiwch ein gwasanaeth cyfnewid fideo lle bydd dehonglwr yn eich helpu i riportio’r drosedd i ni.
Galwadau 999 tawel
Os ydych mewn perygl ond na allwch siarad ar y ffôn, dylech ddal ffonio 999, yna dilyn y cyfarwyddiadau hyn yn dibynnu a ydych yn ffonio o ffôn symudol neu linell dir.
Ffoniwch 101 ar gyfer ymholiadau sydd ddim yn argyfwng.
Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101 neu os ydych yn ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain, gallwch ddefnyddio SignLive er mwyn cysylltu i ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain proffesiynol ar-lein.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg a Saesneg.
Ffoniwch Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth y DU ar 0800 789 321 os ydych wedi gweld neu glywed rhywbeth yr ydych chi’n meddwl allai awgrymu gweithgarwch terfysgol.
Defnyddiwch y rhif hwn os ydych yn cysylltu â ni o du allan i’r DU.
Cysylltwch â Crimestoppers i riportio’n ddienw drosedd neu ymddygiad amheus.
Dewch o hyd i’ch gorsaf neu fan cyswllt yr heddlu agosaf gan ddefnyddio’r blwch chwilio isod.