Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn derbyn ceisiadau caniatâd newydd ar gyfer tystysgrifau drylliau, arfau tanio neu ffrwydron. Rydym yn dilyn canllawiau'r llywodraeth ynglŷn â'r angen i gadw pellter cymdeithasol. Bydd amseroedd prosesu yn cymryd ychydig yn hirach na’r arfer. Mae gennym ôl-groniad sylweddol ac rydym yn gweithio trwy’r rhain mor gyflym â phosibl. Os bydd yr ardal rydych yn byw ynddi yn dod o dan gyfyngiadau lleol ni fyddwn yn gallu gweithredu ar eich cais hyd nes bod y cyfyngiadau wedi’u codi.
Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i geisiadau adnewyddu a byddem yn annog deiliaid tystysgrif sydd wedi derbyn llythyr atgoffa i adnewyddu, i gyflwyno eu cais a phrofforma meddygol yn ddi-oed. Rhoddir blaenoriaeth isel i bob cais i amrywio tystysgrif arf tanio oni bai bod y cais yn un brys ac yn gysylltiedig â gwaith. Fel arall fe fyddwch yn gweld oedi hir. Cysylltwch â ni ar-lein os oes gennych gwestiynau.
Mae gwybodaeth isod am sut mae gwneud cais am dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron, neu adnewyddu un. Boed chi’n berchennog arf tanio, yn ddeliwr drylliau, yn aelod o glwb saethu neu’n bwriadu teithio ag arfau tanio, atebwch ychydig o gwestiynau cyflym ac fe wnawn ni eich cyfeirio at y ffurflen gywir, a phopeth sydd ei angen arnoch i’w llenwi.
Rydych chi ar Cam 1 o uchafswm o 1
Rydych wedi cwblhau 0%
Rhowch eich cyfeiriad.
Rhowch god post llawn neu rannol yn y blwch isod a chlicio ‘Canfod Cyfeiriad’ i weld y cyfeiriadau sy’n cyfateb, a dewis eich un chi.
Os mai hwn yw’r cyfeiriad cywir, cliciwch ‘Iawn’ i barhau. Os nad hwn yw’r cyfeiriad cywir, chwiliwch neu ddewis eto.
Mae’r lefel chwyddo yn ddigonol
Ydy’r cyfeiriad uchod yn gywir? Os nad ydy’r cyfeiriad yn gywir, ailosodwch y map a chwilio eto.