Dyma nodiadau’r Swyddfa Gartref i gefnogi ceisiadau ar gyfer rhoi ac adnewyddu tystysgrifau arfau tanio a drylliau.

Dylech eu darllen cyn dechrau gwneud cais. Bydd gofyn i chi gadarnhau yng ngham cyntaf y ffurflen gais eich bod wedi eu darllen.

Tystysgrifau newydd a rhai sydd wedi dod i ben

Os nad ydych wedi cael tystysgrif arf tanio neu ddryll o’r blaen, neu os oes gennych dystysgrif sydd erbyn hyn wedi dod i ben, rhaid i chi wneud cais am dystysgrif newydd.

Adnewyddu tystysgrifau presennol

Os oes gennych dystysgrif yr ydych am ei hadnewyddu, mae’n rhaid i chi wneud hynny cyn bod eich tystysgrif bresennol yn dod i ben. Byddwn yn anfon llythyr atgoffa atoch a fydd yn esbonio pryd y bydd angen i chi adnewyddu eich tystysgrif.

Dolenni neidio:

Deddfwriaeth

Canolwyr

Ceisiadau cydffiniol

Gwybodaeth feddygol

Euogfarnau a throseddau

Ffotograffau

Arolygu eiddo

Cyflwyno cais

Monitro cydraddoldeb

 Diogelu data

Arfau tanio Adran 1 yn unig

 

Deddfwriaeth

Arf tanio

Mae Adran 1 o Ddeddf Arfau Tanio 1968 (fel y'i diwygiwyd) yn berthnasol i bob arf tanio heblaw:

  • dryll
  • arf aer (oni bai ei fod wedi’i nodi fel bod yn ‘benodol beryglus’)
  • arfau gwaharddedig fel reifflau hunanlwytho tanio o’r canol, drylliau llaw, drylliau peiriannol ac ati (oni bai eu bod wedi’u hawdurdodi’n benodol)

Dryll

Dyma’r diffiniad o ddryll (shotgun) yn Adran 1(3)a o Ddeddf Arfau Tanio 1968 (fel y'i diwygiwyd):

  • dryll baril llyfn (heb fod yn arf aer)
  • y mae ganddo faril nad yw’n llai na 24” (60.96cm) o hyd, a bor nad yw’n fwy na 2” (5.08cm) mewn diamedr
  • nid oes ganddo storgell, neu mae ganddo storgell na ddaw yn rhydd nad yw’n gallu dal mwy na dwy getrisen
  • nid rifolfer

Canolwyr

Wrth wneud cais am dystysgrif arf tanio, dylech fod wedi cael caniatâd dau berson sydd wedi cytuno i fod yn ganolwyr i chi.

Wrth wneud cais am dystysgrif dryll, dylech fod wedi cael caniatâd un person sydd wedi cytuno i fod yn ganolwr i chi.

Rhaid i’r canolwyr fod wedi eich adnabod yn bersonol am ddwy flynedd o leiaf, a rhaid iddynt fod yn breswylydd ym Mhrydain.

Ni chaiff canolwr fod yn aelod o’ch teulu agosaf, yn ddeliwr arfau cofrestredig, yn swyddog heddlu sy’n gwasanaethu, yn aelod o staff yr heddu, yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu nac yn aelod o’i staff, yn aelod o Awdurdod Heddlu’r Alban nac yn aelod o staff yr Awdurdod.

Rhaid i’r canolwyr fod yn bobl o gymeriad da a rhaid i unrhyw eirda maen nhw’n cytuno i’w ddarparu gael ei roi o’u gwirfodd, ac nid yn dilyn taliad.

Ceisiadau cydffiniol

I wneud cais am dystysgrif arf tanio a thystysgrif dryll, ac i wneud yn siŵr eu bod yn dod i ben ar yr un pryd (tystysgrifau cydffiniol), dylech lenwi’r adrannau ar gyfer tystysgrifau arf tanio a dryll.

Mae’n bosib y bydd y ffi daladwy ar gyfer tystysgrifau o’r fath yn llai na’r ffi arferol ar gyfer rhoi neu adnewyddu tystysgrif dryll os byddwn yn delio â’ch ddau gais ar yr un pryd.

Gwybodaeth feddygol

Rhaid i chi ddatgelu unrhyw gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol perthnasol yr ydych wedi cael diagnosis neu wedi cael triniaeth ar eu cyfer yn y gorffennol, oherwydd gallai hyn effeithio ar eich gallu i feddu a defnyddio arf tanio neu ddryll yn ddiogel.

Mae Adrannau 27 a 28 o Ddeddf Arfau Tanio 1968 (fel y'i diwygiwyd) yn nodi, er mwyn cyhoeddi tystysgrif arf tanio neu ddryll, rhaid i brif swyddog yr heddlu fod yn fodlon y gellir caniatáu i ymgeisydd feddu gwn ‘heb berygl i ddiogelwch y cyhoedd nac i’r heddwch’.

Mae ffitrwydd meddygol yn un o’r ffactorau y mae’n rhaid i’r heddlu eu hystyried wrth asesu pa mor addas yw person.

Dyma’r cyflyrau meddygol perthnasol y mae’n rhaid eu datgelu:

  • Anhwylder Straen Acíwt neu ymateb acíwt i’r straen a achosir gan drawma
  • meddyliau am hunanladdiad neu hunan-niweidio
  • iselder neu orbryder
  • dementia
  • mania, anhwylder deubegynol neu salwch seicotig
  • anhwylder personoliaeth
  • cyflwr niwrolegol: er enghraifft sglerosis ymledol, clefyd Parkinson neu Huntingdon, neu epilepsi
  • camddefnyddio alcohol neu gyffuriau
  • unrhyw gyflwr meddyliol neu gorfforol arall a allai effeithio ar eich gallu i feddu arf tanio neu ddryll yn ddiogel

Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu adran trwyddedu arfau tanio’r heddlu.

Os ydych wedi datgelu cyflwr meddygol perthnasol, mae’n bosib y bydd yr heddlu’n gofyn i chi gael adroddiad meddygol gan eich meddyg teulu/arbenigwr. Bydd disgwyl i chi dalu os codir ffi am hyn. Os bydd angen mwy o wybodaeth, mae’n bosib y bydd yr heddlu’n gofyn am adroddiad ac yn talu amdano.

Os na ddatgelir unrhyw gyflyrau meddygol perthnasol, bydd yr heddlu’n cysylltu â’ch meddyg teulu i ofyn a yw’n ymwybodol o unrhyw gyflyrau meddygol perthnasol, neu a oes ganddo bryderon am roi tystysgrif arf tanio neu ddryll.

Yn dibynnu ar yr ateb, mae’n bosib y bydd yr heddlu’n gofyn i chi gael adroddiad meddygol gan eich meddyg teulu/arbenigwr. Bydd disgwyl i chi dalu os codir ffi am hyn. Os bydd angen mwy o wybodaeth, mae’n bosib y bydd yr heddlu’n gofyn am adroddiad ac yn talu amdano.

Bydd yr heddlu’n gofyn i’ch meddyg teulu roi neges atgoffa wedi’i hamgodio ar eich cofnod claf i nodi eich bod wedi cael tystysgrif arf tanio neu ddryll. Gofynnir i’r meddyg teulu roi gwybod i’r heddlu os, ar ôl rhoi’r dystysgrif, eich bod yn cael diagnosis neu driniaeth ar gyfer cyflwr meddygol perthnasol (a restrir uchod) neu os oes gan y meddyg teulu bryderon eraill am y ffaith fod gennych dystysgrif a allai effeithio ar eich gallu i feddu arf tanio’n ddiogel.

Ar ôl i’ch meddyg teulu gysylltu, mae’n bosib y bydd angen adroddiad meddygol i helpu i asesu eich addasrwydd parhaus i feddu tystysgrif arf tanio neu ddryll. Os oes angen adroddiad meddygol, bydd yr heddlu’n talu.

Ar ôl rhoi tystysgrif arf tanio neu ddryll, sylwch fod y datganiad rydych wedi’i lofnodi yn cydsynio i rannu gwybodaeth rhwng eich meddyg teulu a’r heddlu yn berthnasol yn ystod y broses o wneud cais ac yn ystod dilysrwydd unrhyw dystysgrif arf tanio neu ddryll, a allai fod yn hyd at bum mlynedd.

Mae disgwyl i chi roi gwybod i’r heddlu os, ar ôl rhoi’r dystysgrif, eich bod yn cael diagnosis neu driniaeth ar gyfer cyflwr meddygol perthnasol yn ystod cyfnod y dystysgrif.

Os byddwch yn newid eich meddyg teulu, dylech roi gwybod i’r heddlu a darparu manylion cyswllt y meddyg teulu newydd.

Gofynnir i chi ddarparu manylion o’ch meddygon teulu yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf ac a ydych wedi cysylltu ag ymarferwyr meddygol ar wahân i’r rhai yn eich practis meddyg teulu, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael i’r heddlu er mwyn eu helpu i asesu pa mor addas ydych i feddu tystysgrif arf tanio.

O ran staff milwrol sydd wedi’u lleoli dramor ac sydd â meddyg teulu yn y gwasanaeth, gellir eu hystyried yn breswylydd yn y DU at ddibenion y cais.

Euogfarnau a throseddau

Chewch chi ddim dal gwybodaeth yn ôl am unrhyw euogfarn.

Mae hyn yn cynnwys troseddau moduro (gan gynnwys troseddau goryrru), rhwymiadau, rhybuddion ysgrifenedig ffurfiol ac euogfarnau ym Mhrydain a thu hwnt, ac (yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975) euogfarnau sydd wedi dod i ben o dan Ddeddf 1974.

Mae rhyddhad amodol a rhyddhad diamod yn cael eu hystyried yn euogfarn at y diben hwn.

Nid oes angen datgan manylion troseddau parcio a hysbysiadau cosb benodedig.

Mae Adran 21 o Ddeddf Arfau Tanio 1968 yn gosod cyfyngiadau ar bobl sydd wedi’u cael yn euog o drosedd yn meddu ar arfau tanio a bwledi a chetris.

Mae person sy’n cael dedfryd o garchar o dri mis neu fwy wedi’i wahardd rhag meddu arf tanio, dryll, arf tanio hynafol, arf aer neu fwledi a chetris am bum mlynedd o’u dyddiad rhyddhau.

Yn achos dedfryd ohiriedig, mae’r gwaharddiad yn berthnasol o’r ail ddiwrnod ar ôl y ddedfryd.

Os yw’r ddedfryd yn un o dair blynedd neu fwy, mae’r gwaharddiad yn berthnasol am oes oni bai y caiff ei godi gan Lys y Goron (neu’r Siryf).

Arolygu eiddo

Dylech ganiatáu i’r heddlu arolygu eich gynau a’ch mesurau diogelwch yn ôl y gofyn oherwydd heb warant, mae angen cydsyniad er mwyn i’r heddlu arolygu eiddo.

Ffotograffau

Rhaid defnyddio ffotograff digidol ar gyfer ceisiadau ar-lein.

Rhaid i’r ffotograffau fod o safon broffesiynol yn erbyn cefndir hufenlliw neu lwyd, heb wrthrychau na phobl eraill yn y cefndir.

Rhaid i’r ffotograff fod yn un gwir ohonoch a chynnwys eich wyneb llawn heb orchudd pen (oni bai eich bod yn ei wisgo am resymau crefyddol neu feddygol).

Yn eich ffotograff, rhaid i chi edrych yn syth at y camera, rhaid i’ch edrychiad fod yn niwtral, gyda’ch llygaid ar agor a’ch ceg ar gau.

Ni chewch wisgo sbectol haul na sbectol dywyll, ac ni chaiff y ffotograff gynnwys unrhyw ‘lygaid coch’.

Monitro cydraddoldeb

Nod y wybodaeth monitro cydraddoldeb rydych yn ei darparu yw helpu’r heddlu i gyflawni ei ddyletswyddau fel Awdurdod Cyhoeddus.

Caiff y wybodaeth hon ei chadw ar wahân i’r cais.

Cyflwyno cais

Bydd y dderbynneb ar gyfer ceisiadau electronig, os yw’r rhain ar gael, yn cael ei chynhyrchu’n awtomatig gan y system.

Os yw cais yn cael ei wneud i amrywio, rhaid i’r dystysgrif sydd i’w hamrywio gael ei chynnwys gyda’ch cais. (Efallai y byddwch yn dymuno cadw copi o’r dystysgrif).

Arfau tanio Adran 1 yn unig

I gaffael neu i feddu arfau tanio neu fwledi a chetris o dan Adran 1 o Ddeddf Arfau Tanio 1968, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth bod gennych reswm da dros wneud hynny.

Mae hyn yn berthnasol i roi, adnewyddu neu amrywio tystysgrif.

Gall y dystiolaeth hon fod ar sawl ffurf: mae’r enghreifftiau’n cynnwys caniatâd i saethu dros dir neu aelodau o glwb saethu targedau, neu archeb neu wahoddiad i hela carw, ond dyna’r unig enghreifftiau.

Rhowch gyfeiriad un darn o dir lle mae gennych ganiatâd i saethu, yn ogystal ag enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person sydd wedi rhoi’r caniatâd hwnnw i chi, neu fanylion clwb a gymeradwyir gan y Swyddfa Gartref yr ydych yn aelod llawn ohono.

DS: Ni fyddwch o reidrwydd wedi eich cyfyngu i saethu dros y darn unigol hwnnw o dir, neu yn y clwb hwnnw.

Diogelu data

Rwyf yn deall y bydd yr holl wybodaeth a gyflwynir yn cael ei thrin yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a deddfwriaeth gysylltiedig. Rwyf yn deall y gellir rhannu’r wybodaeth ar fy ffurflen gais neu’r wybodaeth a ganfyddir wrth benderfynu ar y cais â’r canlynol: fy meddyg teulu, adrannau o’r llywodraeth, cyrff rheoleiddio neu asiantaethau gorfodi, a hynny wrth benderfynu ar y cais neu er mwyn cynnal diogelwch y cyhoedd neu’r heddwch.

Sylwer: Bydd unrhyw wybodaeth a rennir yn cael ei rhannu yn unol â phrotocolau rhannu data. Nid yw’r heddlu’n rhannu eich manylion personol ag ymgeiswyr eraill nac aelodau o’r cyhoedd, ac maen nhw’n trin gwybodaeth mewn cysylltiad â’r cais yn gyfrinachol. Serch hynny, dylai unigolion fod yn ymwybodol y gallai’r heddlu ddatgelu rhywfaint o wybodaeth yn unol â’r ddeddfwriaeth y cyfeirir ati uchod.