Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwybodaeth isod am sut mae gwneud cais am dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron, neu adnewyddu un. Boed chi’n berchennog arf tanio, yn ddeliwr drylliau, yn aelod o glwb saethu neu’n bwriadu teithio ag arfau tanio, atebwch ychydig o gwestiynau cyflym ac fe wnawn ni eich cyfeirio at y ffurflen gywir, a phopeth sydd ei angen arnoch i’w llenwi.
Ychwanegu man busnes dros dro at dystysgrif deliwr gyfredol
Cam 1: Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gofrestru ar gyfer deliwr arfau tanio (Ffurflen 116A).
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cam 2: Postiwch eich ffurflenni wedi’u llenwi a’ch siec (yn daladwy i Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent) i:
Adran Trwyddedu Arfau Tanio
Heddlu Gwent
Pencadlys yr Heddlu
Croesyceiliog
Cwmbran
Gwent
NP44 2XJ
Does dim rhaid i ddelwyr yng Ngwent dalu. £13 yw’r gost i ddelwyr y tu allan i Gwent.
Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich cais neu fod angen i ni ofyn am fwy o wybodaeth.
Fel arall, byddwn yn cysylltu â chi cyn pen chwe wythnos.