Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
Casgliadau stryd
Os ydych chi eisiau casglu arian neu werthu eitemau ar y stryd ar gyfer elusen efallai y bydd angen trwydded casgliadau stryd arnoch, yn dibynnu ar lle rydych yn casglu a’ch cyngor lleol.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol er mwyn canfod a oes angen trwydded arnoch. Dewch o hyd i fanylion eich cyngor.
Yn Llundain Fwyaf (ac eithrio dinas Llundain) bydd angen i chi gysylltu â’r Heddlu Metropolitan am drwydded.
O dŷ i dŷ
Rhaid i chi wneud cais i’ch cyngor lleol am drwydded os ydych eisiau casglu arian neu nwyddau (yr ydych yn bwriadu eu gwerthu yn ddiweddarach) o gartrefi pobl ar gyfer elusen.
Cysylltwch â’ch cyngor (neu os ydych yn Llundain, yr Heddlu Metropolitan) er mwyn gwneud cais am drwydded. Dewch o hyd i fanylion eich cyngor.
Casglu mewn gorsafoedd
Os hoffech chi gasglu arian ar fangreoedd y rheilffyrdd, bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd, gan ddibynnu ar ble rydych chi’n casglu.
Yn achos gorsafoedd Network Rail, fe welwch chi fanylion y meini prawf cymhwysedd a sut i wneud cais ar eu gwefan.
Yn achos gorsafoedd rheilffordd London Underground, Docklands Light Railway, LondonOverground a TfL, fe welwch chi wybodaeth ar wefan TfL.