Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Adroddiad ar uwch-gŵyn y Gynghrair Cyfiawnder Troseddol - Adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 a chraffu cymunedol annibynnol ar stopio a chwilio
Cyhoeddwyd yr adroddiad canlynol ar 15 Rhagfyr 2023 gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi, y Coleg Plismona a Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu:
Adroddiad ar uwch-gŵyn y Gynghrair Cyfiawnder Troseddol - Adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 a chraffu cymunedol annibynnol ar stopio a chwilio: Adroddiad ar uwch-gŵyn y Gynghrair Cyfiawnder Troseddol: Adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 a chraffu cymunedol annibynnol ar stopio a chwilio (publishing.service.gov.uk).
Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i brif gwnstabliaid ac, yn unol ag argymhelliad 10, rhestrir yr wybodaeth ddiweddaraf am yr argymhellion hyn isod.
Sylwer bod Heddlu Gwent wedi awdurdodi un adran 60 hyd yma yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.
Erbyn 14 Mehefin 2024, dylai prif gwnstabliaid sicrhau bod eu heddluoedd yn adolygu cynnwys hyfforddiant ar adran 60 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 a sut maent yn ei ddarparu. Dylai'r adolygiad ystyried gofynion cyfredol cwricwlwm cenedlaethol yr heddlu a pha mor ddigonol yw hyfforddiant yr heddlu ar gyfer: swyddogion y gellir bod gofyn iddynt awdurdodi digwyddiadau adran 60; ac unrhyw swyddogion y gellir bod gofyn iddynt weithredu stopio a chwilio adran 60.Dylai'r adolygiad ac unrhyw gamau gweithredu cysylltiedig fod yn gymesur â defnydd pob heddlu o adran 60.
Rydym wedi adolygu'r hyfforddiant presennol ar adran 60 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994. O ran swyddogion sy'n cynnal stopio a chwilio adran 60, mae hyfforddiant yn cael ei gynnwys ar y cwrs sefydlu i swyddogion newydd ac ar y cwrs hyfforddiant Y Drefn Gyhoeddus dechreuol, Lefel 2 a Lefel 3. Rydym yn cydnabod nad oes unrhyw hyfforddiant ychwanegol ar hyn o bryd i swyddogion sy'r awdurdodi adran 60.
Mae pecyn hyfforddiant wedi cael ei ddatblygu ar gyfer swyddogion cyfredol y gellir bod angen iddynt awdurdodi adran 60 a'r rhai y gellir bod gofyn iddynt gynnal stopio chwilio adran 60. Bydd hwn yn cael ei ddarparu mewn sesiynau pwrpasol trwy Microsoft Teams gan yr arweinydd tactegol Stopio a Chwilio ar ôl haf 2024.
Mae cynlluniau ar waith i gyflwyno cyrsiau hyfforddiant diweddaru stopio a chwilio blynyddol i swyddogion. Mae'r syniad o gynnwys adran 60 yn yr hyfforddiant hwn yn cael ei ystyried.
Erbyn 14 Mehefin 2024, dylai prif gwnstabliaid sicrhau bod trefniadau briffio ac ôl-drafod ar gyfer gweithgareddau eu heddluoedd o dan adran 60 Y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 yn drwyadl ac yn unol â Chod A Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a chynnwys a chanllawiau arfer proffesiynol awdurdodedig. Rhaid i brif gwnstabliaid sicrhau bod sesiynau trafod adran 60 yn cael eu cofnodi. Gall hyn fod ar ffurf briff ysgrifenedig. Ond dylai sesiynau briffio ffurfiol adran 60 ar lafar gael eu rhoi ar ddyfeisiau clywedol fel fideo camera corff neu ddyfeisiau cyfathrebu symudol cymeradwy. Dylent fod yn gallu cael eu recordio yn rhan o'r ymgyrch plismona a dylent fod yn destun craffu. Dylai sesiynau briffio adran 60 i swyddogion y mae gofyn iddynt ddefnyddio eu pwerau stopio a chwilio gynnwys gwybodaeth am: y ddeddf a chanllawiau perthnasol; y rhesymau penodol dros awdurdodi defnyddio pwerau stopio a chwilio adran 60; yr holl wybodaeth a chudd-wybodaeth berthnasol; yr ardal ddaearyddol berthnasol a'r cyfyngiadau amser a awdurdodwyd; yr holl wybodaeth gymunedol berthnasol (gan gynnwys hanes plismona) ac unrhyw asesiad o effaith ar y gymuned; sut bydd unrhyw ôl-drafodaeth a gwersi a ddysgwyd gan yr heddlu'n cael eu cynnal; a phwysigrwydd recordio pob digwyddiad stopio a chwilio adran 60 yn eu cyfanrwydd ar fideo camera corff.
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r polisi a'r weithdrefn ar gyfer stopio a chwilio. Bydd yr adolygiad yn cynnwys safoni'r pwyntiau a godwyd yn yr argymhelliad. Mae dulliau mewn lle mewn swyddogaethau eraill, fel defnyddio'r drefn gyhoeddus ac arfau tanio, y gellir eu copïo ar gyfer gweithgareddau o dan adran 60. Bydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Ebrill 2024.
Erbyn 14 Mehefin 2024, dylai prif gwnstabliaid sicrhau bod pob swyddog y gallai bod gofyn iddo arfer pwerau stopio a chwilio yn deall ei gyfrifoldeb i ddiogelu plant sy'n cael eu stopio a chwilio ac yn cydymffurfio â'r ddyletswydd honno. Trwy wneud hynny, dylai prif gwnstabliaid sicrhau: yn unol â'r cwricwlwm plismona cenedlaethol, bod swyddogion sy'n cynnal chwiliadau yn derbyn hyfforddiant priodol i gymryd y camau angenrheidiol i leihau unrhyw niwed emosiynol y gellir cael ei achosi gan y digwyddiadau hyn; bod prosesau mewn lle yn yr heddlu i gynorthwyo atgyfeiriadau diogelu priodol pan fydd plant yn cael eu stopio a chwilio; a bod gwiriad ac asesiad cadarn o bob chwiliad o'r fath sy'n digwydd yn ystyried anghenion diogelwch a lles y plentyn.
Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen amlasiantaeth yng Ngwent yn dilyn pryderon a godwyd gan y Comisiynydd Plant ynglŷn â chwilio plant. Mae argymhellion ar fin cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Diogelu Lleol ar 6ed Mawrth 2024 i i gyflwyno hysbysiad diogelwch ar bobl achlysur pan fydd plentyn yn cael ei chwilio dan bwerau stopio a chwilio. Mae rhai diwygiadau'n cael eu gwneud i'r templed stopio a chwilio cenedlaethol ar Niche a fydd yn caniatáu i wasanaethau heddlu graffu ar y rhain yn fwy effeithiol.
Erbyn 14 Mehefin 2024, dylai prif gwnstabliaid sicrhau bod heddluoedd yn cyfathrebu'n effeithiol gyda chymunedau a phartïon â diddordeb ar ddefnydd yr heddlu o bwerau stopio a chwilio adran 60. Dylai hyn gynnwys: sicrhau bod cyfathrebu'n cyrraedd y cymunedau sy'n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan yr awdurdod adran 60 a gwirio bod eu strategaethau cyfathrebu'n effeithiol; cyhoeddi manylion i hysbysu'r cyhoedd, rhoi tawelwch meddwl a manteisio i'r eithaf ar unrhyw effaith ataliol; a rhoi gwybodaeth wedyn i gymunedau a phartïon â diddordeb am ganlyniadau gweithredol.
Rydym wedi awdurdodi un Adran 60 hyd yn hyn yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Cafodd hwn ei gyfathrebu ar ein gwefan er mwyn i gymunedau lleol fod yn ymwybodol. Rhoddodd y neges y rhesymau dros yr awdurdodiad a rhoddodd dawelwch meddwl i'r gymuned. Postiwyd y neges ar gyfryngau cymdeithasol (Facebook a Twitter) hefyd. Rydym yn cydnabod bod bwlch o ran adborth i'r gymuned ar ganlyniadau gweithredol a bydd hyn yn cael ei gynnwys yn nhermau safoni'r prosesau a thempledi.
Erbyn 14 Mehefin 2024, dylai prif gwnstabliaid fodloni eu hunain bod eu heddlu'n rhoi'r holl wybodaeth berthnasol i baneli craffu cymunedol (neu gyfatebol) i'w helpu i graffu ar ddigwyddiadau stopio a chwilio'r heddlu a gweithrediadau heddlu eraill sy'n codi o awdurdodiadau adran 60. Dylai hyn gynnwys: y sail a'r rhesymau sylfaenol dros yr awdurdodiadau; unrhyw recordiadau o sesiynau briffio; cofnodion ysgrifenedig o chwiliadau; gwybodaeth am ganlyniadau chwiliadau; a fideo camera corff o ddigwyddiadau yn eu cyfanrwydd. Yn ogystal, dylai prif gwnstabliaid fodloni eu hunain bod eu heddlu'n cynnwys sylwadau gan baneli craffu cymunedol (neu gyfatebol) wrth werthuso a gwella defnydd yr heddlu o adran 60.
Mae gennym Banel Craffu ar Gyfreithlondeb sy'n cynnwys yr heddlu a chynrychiolwyr o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Grŵp Cynghori Annibynnol a Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid. Mae'r panel yn cyfarfod bob tri mis ac yn archwilio sampl o ddigwyddiadau stopio a chwilio a defnyddio grym. Mae aelodau'r panel yn edrych ar gofnodion, fideos camera corff ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall. Caiff adborth ei rannu gyda'r swyddogion perthnasol er mwyn rhannu unrhyw wersi a ddysgwyd. Gellir cynnwys digwyddiadau stopio a chwilio sy'n codi o awdurdodiadau adran 60 yn y Panel Craffu ar Gyfreithlondeb yn ôl y gofyn.
Erbyn 14 Mehefin 2024, dylai prif gwnstabliaid a ble y bo'n berthnasol comisiynwyr heddlu a throsedd (neu gyfatebol) sicrhau bod eu heddluoedd yn gweithio mewn partneriaeth â phaneli craffu cymunedol (neu gyfatebol) i: adolygu aelodaeth paneli a threfniadau fetio i ddileu unrhyw rwystrau diangen i recriwtio aelodau paneli; hyrwyddo recriwtio aelodau o ddiwylliannau amrywiol, gyda phwyslais penodol ar gynrychioli, cynnwys a chadw pobl o gymunedau nad ydynt yn cael eu cynrychioli ddigon a phobl ifanc; hyrwyddo cynrychiolaeth, cynnwys a chadw pobl sydd wedi cael eu stopio a chwilio; sicrhau bod yr heddlu'n rhoi gwybodaeth i baneli craffu cymunedol ar ddefnydd yr heddlu o rym, gan gynnwys gefynnu, sy'n berthnasol i ddefnydd yr heddlu o bwerau stopio a chwilio; sicrhau eu bod yn cefnogi ac yn helpu paneli craffu cymunedol i adolygu awdurdodiadau adran 60, chwiliadau, asesiadau o effaith ar y gymuned a chwynion cysylltiedig, rhoi hyfforddiant priodol i aelodau a'u cefnogi nhw i'w helpu nhw i gyflawni eu rôl yn craffu ar ddigwyddiadau stopio a chwilio yn effeithiol, gan ystyried yr effaith y gallai'r rôl ei chael arnynt; a darparu'r lefel cywir o gynrychiolaeth gan yr heddlu mewn cyfarfodydd panel i gefnogi a chynghori yn ôl y gofyn, ac i sicrhau bod sylwadau'r panel yn helpu i wella dysgu - o ran swyddogion unigol a'r sefydliad.
Yn unol â'r ymateb i argymhelliad 7, mae'r heddlu'n gweithredu Panel Craffu ar Gyfreithlondeb sy'n cynnwys yr heddlu a chynrychiolwyr o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Grŵp Cynghori Annibynnol a Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid. Mae'r panel yn cyfarfod bob tri mis ac yn archwilio sampl o ddigwyddiadau stopio a chwilio a defnyddio grym. Mae aelodau'r panel yn edrych ar gofnodion, fideos camera corff ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall. Rhoddir adborth i swyddogion ble y bo'n briodol i rannu unrhyw wersi a ddysgwyd.
Rydym yn cynnal ymarfer meincnodi gyda heddluoedd eraill i ddeall arfer gorau o ran ymgysylltu a chraffu cymunedol. Rydym yn cwmpasu panel mwy ffurfiol gyda grŵp mwy amrywiol o aelodau'r gymuned. Rydym hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o ehangu gwaith ymgysylltu â chymunedau ynghylch stopio a chwilio ac yn ymchwilio model Glannau Mersi sy'n caniatáu fforwm agored lle gall aelodau'r gymuned gysylltu, cael y wybodaeth berthnasol, mynegi eu barn a safbwyntiau, a chynnig sylwadau i'r heddlu.