Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Gwent yn ardal o wrthgyferbyniadau; dinas brysur, trefi hanesyddol a chymunedau bach gwledig. Mae gennym boblogaeth lleiafrifoedd ethnig sy'n tyfu, yn enwedig yng Nghasnewydd, sy'n un o bedair ardal wasgaru'r Asiantaeth Ffiniau ar gyfer Ceiswyr Lloches yng Nghymru.
Mae rhai o'n cymunedau ymysg y mwyaf difreintiedig yn y DU, a rhai ymysg y mwyaf cefnog. Mae gennym gyfran uwch na'r cyfartaledd o bobl anabl yn byw yng Ngwent, a nifer gynyddol o siaradwyr Cymraeg. Mae'r amrywiaeth hon yn creu heriau unigryw i swyddogion a staff yr heddlu sy'n byw ac yn gweithio yma, ac mae gan bob un ohonom ymrwymiad cryf i werthfawrogi gwahaniaeth ac annog cynhwysiant - yn ein sefydliad a thrwy'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.
Mae gan Heddlu Gwent Grŵp Cynghori Annibynnol gweithgar. Mae aelodau’r Grŵp Cynghori Annibynnol yn annibynnol ar Heddlu Gwent ond sy’n gweithio mewn partneriaeth â ni fel ein ‘ffrindiau beirniadol’ i gynghori ar faterion lleol a chenedlaethol.
Sefydlwyd y grwpiau cynghori annibynnol gan bob Heddlu yng Nghymru a Lloegr mewn ymateb i ganfyddiadau Ymchwiliad Stephen Lawrence a gyhoeddwyd ym 1999. Mae gwybodaeth am y Grŵp Cynghori Annibynnol a sut i ddod yn aelod i’w gweld yma.
Gall aelodau’r gymuned ddod yn aelodau o’r Grŵp Cydlyniant Cymunedol hefyd, sy’n ategu gwaith y Grŵp Cynghori Annibynnol trwy graffu ar y polisïau a’r prosesau a ddefnyddir gan Heddlu Gwent. Mae gwybodaeth am y Grŵp Cydlyniant Cymunedol a sut i ddod yn aelod i’w gweld yma.
Ymateb i uwch-gŵyn Liberty a Southall Black Sisters ynghych plismona a statws mewnfudo.
Ym mis Hydref 2010, cyflwynodd y Ddeddf Cydraddoldeb Ddyletswydd Cydraddoldeb Gyffredinol y Sector Cyhoeddus, sy'n galw ar Heddlu Gwent, wrth gyflawni ein swyddogaethau mewnol ac allanol, i roi'r sylw priodol i'r angen i:
Mae ein Dyletswydd Cydraddoldeb yn berthnasol i bersonél yr Heddlu ac aelodau o'n cymunedau sy'n rhannu 'Nodweddion Gwarchodedig'. Mae 9 Nodwedd Warchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb:
Fel rhan o'n Dyletswydd Cydraddoldeb, mae Heddlu Gwent: