Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent yn ymateb i gannoedd o ddigwyddiadau bod dydd ar draws y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu wrth i ni geisio cyflawni ein blaenoriaethau o atal troseddu a rhoi cymorth i ddioddefwyr trwy'r holl gymunedau hyn.
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau'n cael eu datrys heb fod angen defnyddio unrhyw rym; fodd bynnag, mae achlysuron pan mae angen i swyddog ddefnyddio grym i amddiffyn y cyhoedd neu i amddiffyn ei hun. Mae swyddogion heddlu'n wynebu sefyllfaoedd anodd bob dydd. Maen nhw'n rhedeg tuag at berygl pan fydd pobl eraill yn rhedeg oddi wrtho, yn meddwl ac yn gweithredu'n gyflym er mwyn cadw pobl mor ddiogel ag y gallant.
Mae gan swyddogion awdurdod ac maen nhw'n cael eu hyfforddi i ddefnyddio grym yn gymesur, yn gyfreithiol a dim ond pan fydd hynny'n angenrheidiol. Bydd cyhoeddi'r data hyn yn hwyluso gwell ymddiriedaeth a hyder gan y cyhoedd a mwy o dryloywder o ran sut a pham y defnyddir grym. Yn y dyfodol, bydd y data hyn yn ein galluogi ni i gymharu pa mor effeithiol yw gwahanol dechnegau, a gwneud penderfyniadau am hyfforddiant, tactegau ac offer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Rhaid i'r swyddog unigol gwblhau ffurflen defnyddio grym pan fydd y defnydd canlynol o rym yn digwydd (gan gynnwys yn y ddalfa). Gallai hyn arwain at gyflwyno nifer o ffurflenni mewn perthynas ag un digwyddiad:
Dyma'r tro cyntaf i'r data hyn gael eu casglu a'u cyhoeddi gan luoedd heddlu, ac oherwydd y cymhlethdodau wrth benderfynu beth yn union sy'n cyfrif fel defnyddio grym, mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu wedi rhybuddio y gall cymariaethau rhwng lluoedd fod yn annibynadwy a chamarweiniol. Mae cofnodi'r data hyn yn cynrychioli newid sylweddol i Heddlu Gwent a disgwylir y bydd nifer y digwyddiadau lle y defnyddir grym yn llawer mwy na'r ffigyrau cychwynnol. Rydym yn ymdrechu i wella ansawdd a chysondeb ein data ynghylch defnyddio grym yn ystod cam cyntaf y prosiect cenedlaethol hwn.
Pan fydd grym wedi cael ei ddefnyddio yn erbyn unigolyn, mae gofyn bod ein swyddogion yn cofnodi hynny.
Mae hyn yn sicrhau ein bod yn cael ein dwyn i gyfrif, bod unrhyw dueddiadau yn cael eu nodi a’n bod yn gallu deall unrhyw broblemau o ran hyfforddiant, cyfarpar neu ddiogelwch swyddogion. Mae hyn yn sicrhau bod ein defnydd o rym yn addas i’r pwrpas.
Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys unrhyw fath o ataliaeth, gefynnu, defnydd o Taser neu chwistrell lidiog.
Cliciwch i lawrlwytho