Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd nifer o ddyletswyddau a chyfrifoldebau penodol ac un ohonynt yw pennu Cynllun yr Heddlu a Throsedd mewn ymgynghoriad a chymunedau Gwent.
Y Prif Gwnstabl sy’n gyfrifol am blismona gweithredol ac mae swyddogion a staff Heddlu Gwent o dan ei chyfarwyddyd a’i rheolaeth.
Mae’r Prif Gwnstabl hefyd yn gyfrifol am lunio cynllun cyflawni i gyflawni yn erbyn y blaenoriaethau a nodir yng Nghynllun yr Heddlu a Throsedd.
Y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad yw’r prif fforwm lle mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif yn unol ag adran 1(8) Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Yn ogystal, y Bwrdd yw’r prif fforwm ymgynghori ar gyfer penderfyniadau strategol sy’n effeithio ar Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a’r Prif Gwnstabl fel ei gilydd.