Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Vicki Townsend â Heddlu Gwent yn 2007 fel Cwnstabl Heddlu yn ardal Y Fenni, Sir Fynwy, yn fuan ar ôl cwblhau ei gradd Baglor yn y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe.
Enillodd Vicki ei hachrediad ditectif yn 2009 a chafodd ei dyrchafu’n Rhingyll Heddlu yn 2011. Wedyn aeth yn ei blaen i ddod yn Dditectif Ringyll yn 2012 yn arbenigo mewn trosedd difrifol a chymhleth.
Yn ystod y cyfnod yma roedd Vicki’n cael ei hadnabod fel swyddog hynod o fedrus a thalentog, a llwyddodd ar y Cynllun Datblygiad Potensial Mawr yn 2010; gan gwblhau’r cymhwyster pum mlynedd ym mis Ionawr 2016.
Parhaodd Vicki i gael ei dyrchafu ac yn 2017 daeth yn Uwch-arolygydd Dros Dro yn Ystafell Reoli’r Heddlu, gan gwblhau ei chyrsiau Comander Tactegol ac Arfau Tanio Strategol. Vicki oedd Pennaeth yr adran Gwasanaethau Digidol yn 2020, ardal blismona leol y Dwyrain yn 2022, a Gwelliant Parhaus yn 2023.
Vicki yw’r Comander Aur ar gyfer digwyddiadau Cemegol, Biolegol, Radiolegol a Niwclear hefyd.
Mae Vicki’n angerddol am blismona. Mae’n benderfynol o ddarparu gwasanaeth eithriadol ar gyfer y cyhoedd. Mae Vicki bob tro’n ceisio datblygu ffyrdd arloesol o blismona ac roedd yn rhan o’r tîm a oedd yn gyfrifol am gyflwyno timau plismona hanfodol fel y Tîm Seiberdrosedd ac Ymchwilio Ar-lein.
Dechreuodd Vicki ei swydd fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro ym mis Medi 2024 ac mae’n gyfrifol am blismona gweithredol.