Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Amanda â Heddlu Gorllewin Mersia ym 1992 ac mae wedi dal sawl swydd yn ystod ei gyrfa. Treuliodd 11 mlynedd gyntaf ei gwasanaeth yn ennill profiad a gwybodaeth werthfawr mewn amrywiaeth o swyddogaethau fel cwnstabl heddlu.
Yn 2003, cafodd ei dyrchafu'n rhingyll ac ers hynny, ar draws sawl rheng, mae wedi arwain timau wrth ddarparu gwasanaethau hollbwysig i gymunedau. Mae wedi bod yn gyfrifol am gudd-wybodaeth a swyddogaethau rhagweithiol ac mae wedi bod yn Uwch Swyddog Ymchwilio fel rhan o Uned Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol y Llu. Yn 2008, aeth ar secondiad i Uned Cudd-wybodaeth Ranbarthol Gorllewin Canolbarth Lloegr lle bu'n arwain y gwaith o ddatblygu'r prosesau pwysig ar gyfer adnabod ac amharu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol. Mae hefyd wedi arwain gweithredoedd plismona ar lefel lleol fel Comander Ardal Blismona Leol. Mae wedi gweithio fel Pennaeth Amddiffyn y Cyhoedd a Phennaeth Cymorth Gweithredol i Heddlu Gorllewin Mersia a Heddlu Swydd Warwick hefyd. Mae wedi bod yn Gomander Tactegol Arfau Tanio ac mae'n Gomander Strategol Arbenigol Arfau Tanio yn awr.
Mae gan Amanda radd Baglor mewn Gwyddoniaeth gydag Anrhydedd mewn Trosedd a Throseddeg.
Cafodd ei phenodi'n Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gorllewin Mersia ym mis Chwefror 2017 ar ôl bod yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol ar gyfer Plismona Lleol i Heddlu Swydd Warwick a Heddlu Gorllewin Mersia ers mis Hydref 2014.
Yn fwy diweddar a chyn y broses recriwtio yma yng Ngwent, Amanda oedd Swyddog Cyfrifol Uwch Gorllewin Mersia ar gyfer Trawsnewid ac mae'n hynod o falch i fod yn arweinydd portffolios Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gyfer Troseddau Meddiangar Difrifol a Chyfundrefnol ac Anabledd.
49KB