Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Dirprwy Brif Gwnstabl Rachel Williams yn uwch swyddog heddlu gyda dros 20 mlynedd o brofiad plismona. Dechreuodd ei gyrfa plismona gyda Chwnstabliaeth Swydd Gaerloyw yn gweithio mewn amryw o swyddi ymatebol ac ymchwiliol, o reng Cwnstabl Heddlu i Dditectif Arolygydd.
Yn 2011, cafodd brofiad o blismona rhanbarthol yn Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol (ROCU) y De Orllewin cyn ymuno â Heddlu Avon a Gwlad yr Haf fel Ditectif Brif Arolygydd yn 2012. Arweiniodd Rachel nifer o ymchwiliadau lladdiadau fel Uwch Swyddog Ymchwilio, a chafodd rolau fel Ditectif Uwch-arolygydd Amddiffyn y Cyhoedd, gan symud yn ddiweddarach i fod yn Uwch-arolygydd Rheoli Bwrdeistref yn gyfrifol am bartneriaethau a pherfformiad ym Mryste, ac yna yn Brif Uwch-arolygydd yn gyfrifol am Gymorth Gweithredol, gan gynnwys Comander Trefn Reoli Aur ar gyfer Gŵyl Glastonbury.
Ar ôl cwblhau'r Cwrs Rheoli Uwch, dechreuodd Rachel weithio yn yr uned Rheoli Gwrth-lygredigaeth a Chymorth Gweithredol yn Heddlu Avon a Gwlad yr Haf cyn ymuno â'r Heddlu Metropolitan yn 2020 fel Comander Cudd-wybodaeth a Phlismona Cudd.
Yn 2021, penodwyd Rachel i'r swydd Comander Ailadeiladu Hyder ac arweiniodd gynlluniau cyflawni ailadeiladu hyder y Gwasanaeth Heddlu Metropolitan a'r ymateb i Ymchwiliad Angiolini ac adolygiad y Farwnes Casey. Penodwyd Rachel yn Gomander ar gyfer Trais ledled Llundain, a bu'n gweithio'n agos gyda phartneriaid i atal ac ymateb i bob agwedd ar drais mewn mannau cyhoeddus.
Ym mis Hydref 2022 penodwyd Rachel yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent.
50KB