Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Dirprwy Brif Gwnstabl Mark Hobrough â Heddlu Gwent yn 2020 fel Prif Uwch-arolygydd yn gyfrifol am blismona lleol yng Nghaerffili, Torfaen a Blaenau Gwent, cyn iddo ddod yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol ym mis Ionawr 2022.
Mae wedi gwasanaethu am dros 28 mlynedd ac mae ei yrfa plismona amrywiol wedi cynnwys cynllunio a gweithredu digwyddiadau ac ymgyrchoedd uchel eu proffil, arwain rhaglenni diwygio sefydliadol ochr yn ochr â rolau’n ymdrin â chymunedau a phartneriaid.
Enillodd Mark radd BA anrhydedd mewn economeg ariannol cyn ymuno â Heddlu De Cymru ym 1995. Yn y gorffennol mae wedi gweithio fel triniwr cŵn heddlu ac mae wedi cael hyfforddiant comander tactegol arfau tanio a chymrodeddwr gwystlon. Datblygodd y sgiliau hynny i ddod yn gomander strategol arfau tanio arbenigol, comander aur y drefn gyhoeddus, comander aur CBRN a chydgysylltydd arwain diogelwch gwrthderfysgaeth rhanbarthau Cymru.
Mae ei yrfa yn y maes plismona wedi mynd ag ef i bedwar ban byd. Mae wedi gweithio dramor i Heddlu Kenya yn Nairobi, yn ogystal â Heddlu Queensland yn Awstralia, yn rhan o’r gwaith o blismona Gemau’r Gymanwlad yn 2018.
Yn 2020, ar adeg hynod o heriol i bawb yn ein cymunedau, Mark oedd yn gyfrifol am ymateb yr heddlu i’r pandemig Covid-19 fel arweinydd aur.
Yn ystod ei gyfnod yng Ngwent, mae Mark wedi arwain y gwaith o ddatblygu’r adran plismona ffyrdd a gweithrediadau arbenigol, yn ogystal ag adolygu model gweithredu'r uned plismona mewn lifrai.
Ef yw arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar glefydau anifeiliaid, maes pwysig o ran risg, sy’n gysylltiedig ag argyfyngau sifil posibl ehangach. Yn fwy diweddar, daeth Mark yn arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gyfer cŵn peryglus ac mae’n cynnig safbwyntiau gweithredol ar faterion trosedd a phlismona sy’n ymwneud â hyn.
Mae Mark yn teimlo’n angerddol dros wella hyder y cyhoedd trwy wella perfformiad ac mae’n frwd dros atal a lleihau trosedd, cofnodi trosedd yn foesegol ac yn brydlon, a gwaith ymchwilio trwyadl gan weithlu proffesiynol a chadarnhaol.