Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Gareth Chapman â Heddlu Gwirfoddol Gwent ym 1977 ac, er gwaethaf seibiant rhwng 1988 a 1994 (i ymgymryd â'i hyfforddiant proffesiynol) mae wedi parhau i wasanaethu cymunedau Gwent trwy gydol y cyfnod hwn.
Mae Gareth wedi bod yn gefnogwr brwd o'r rôl Cwnstabl Gwirfoddol erioed, a'r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad mae unigolion sy'n cyflawni'r rôl wirfoddol hon yn eu rhannu gyda'r teulu heddlu.
Mae Gareth wedi gwasanaethu yng Nghasnewydd Canolog, Tŷ-du, Alway, Maendy, Cwmbrân a'r pencadlys yn ystod ei yrfa ac roedd yn ddigon ffodus i gael ei ddewis fel un o'r cwnstabliaid cymdogaeth gwirfoddol cyntaf i wasanaethu yn Nhŷ-du yn y 1980au cynnar.
Cymerodd Gareth yr awenau fel Prif Swyddog yr Heddlu Gwirfoddol ym mis Mehefin 2017.
Mae Gareth yn gweithio fel Prif Weithredwr Awdurdod Unedol ar hyn o bryd ac mae wedi bod yn swyddog llywodraeth leol am 40 mlynedd.
Mae gan Gareth ddwy radd Meistr, un yn y Gyfraith a'r llall mewn Gweinyddu Busnes, mae'n Rheolwr Siartredig, yn Gydymaith y Sefydliad Rheolaeth Siartredig ac mae wedi cymhwyso fel Cyfreithiwr yr Uwchlysoedd. Mae Gareth wedi cael hyfforddiant Trefn Rheoli Aur ar gyfer Digwyddiadau Mawr.
Cafodd ei benodi'n Ddirprwy Raglaw Sir De Morgannwg yn 2007 am ei wasanaeth i wirfoddoli.
Mae Gareth hefyd yn un o Gyfarwyddwyr Coleg Merthyr Tudful ac yn Ymddiriedolwr St John Cymru.
Mae Gareth yn treulio ei amser hamdden gyda'i deulu.