Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae technoleg adnabod wynebau’n gallu cymharu wyneb person o lun digidol gyda chronfa ddata o wynebau.
Rydym yn defnyddio technoleg adnabod wynebau i atal a chanfod troseddau ac i helpu pobl fregus.
Pryd bynnag yr ydym yn defnyddio technoleg adnabod wynebau, rydym yn cydnabod bod angen i ni gydbwyso pryderon am breifatrwydd a diogelwch yn barhaus, yn ogystal ag ystyried y goblygiadau cyfreithiol a moesegol.
Mae'n dadansoddi nodweddion allweddol ac yn cynhyrchu cynrychiolaeth fathemategol o'r nodweddion hyn. Yna, mae'n eu cymharu â chynrychiolaeth fathemategol wynebau hysbys mewn cronfa ddata, gan nodi cyfatebiadau posibl.
Mae Heddlu Gwent ei defnyddio mewn dwy ffordd:
Fel arfer daw’r lluniau o CCTV, ffonau symudol neu gyfryngau cymdeithasol. Mae’r lluniau hyn yn cael eu cymharu wedyn â’n lluniau ni a dynnwyd yn y ddalfa.
Mae'r gronfa ddata gyfeirio yr ydym yn ei defnyddio’n cynnwys lluniau a dynnwyd yn y ddalfa gan Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Mae'n cynnwys dros 600,000 o luniau.
Ar ôl chwilio drwy'r gronfa, mae'r dechnoleg yn aildrefnu'r lluniau cyfeirio o'r cyfatebiad posibl mwyaf tebygol i'r un lleiaf tebygol.
Fel arfer, bydd gweithredwr yn adolygu'r 200 o gyfatebiadau posibl mwyaf tebygol er mwyn penderfynu a oes cyfatebiad wedi'i wneud. Os bydd y gweithredwr yn penderfynu bod cyfatebiad wedi'i wneud, bydd yn rhoi gwybod i'r swyddog ymchwilio. Bydd y swyddog ymchwilio yn adolygu'r cyfatebiad ac yn ychwanegu'r person at yr ymchwiliad fel unigolyn a ddrwgdybir.
Mae’r Ap OIFR yn galluogi ein swyddogion i ddefnyddio technoleg adnabod wynebau ar eu ffonau symudol. Mae’n cymharu llun o wyneb person a dynnwyd ar ffôn symudol â lluniau o wynebau mewn rhestr wylio/rhestrau gwylio a bennwyd ymlaen llaw er mwyn helpu swyddog i adnabod person. Daw’r lluniau hyn o luniau a dynnwyd gennym ni yn y ddalfa a lluniau a dynnwyd gan Heddlu de Cymru yn y ddalfa, yn ogystal â’n rhestr o bobl sydd ar goll.
Byddwn bob amser yn esbonio i'r person pan fyddwn yn defnyddio’r Ap OIFR ac yn dweud wrtho sut y gall gysylltu â ni os bydd ganddo ragor o gwestiynau.
Ni ellir adnabod pobl nad ydynt wedi'u cynnwys ar restr wylio. Bydd y llun, a dynnir ar y ddyfais symudol, a'r data biometrig, yn cael eu dileu'n awtomatig yn syth ar ôl i chwiliad gael ei gwblhau.
Mae’r Ap OIFR yn cael ei ddefnyddio fel adnodd cudd-wybodaeth ‘ar y stryd’ i helpu swyddogion i adnabod person anhysbys, a phan fydd sail resymol dros ei ddefnyddio.
Gall y rhain gynnwys rhywun yn methu rhoi ei fanylion am ei fod wedi marw, yn anymwybodol, am fod ganddo rwystrau o ran iechyd meddwl neu gyfathrebu, neu am na all wneud hynny o ganlyniad i alcohol neu gyffuriau. Gellir ei ddefnyddio hefyd os yw rhywun yn gwrthod rhoi ei fanylion, neu os ceir amheuaeth resymol bod y person wedi rhoi manylion anwir.
Serch hynny, rhaid i un o’r seiliau canlynol fod yn berthnasol hefyd:
Ni fydd Ap OIFR yn cael ei ddefnyddio yn lle dulliau adnabod traddodiadol, megis swyddogion yn cael sgwrs â rhywun i gael ei enw ac unrhyw brawf adnabod. Fodd bynnag, nid yw hyn yn bosibl weithiau ac mae’r ap yn ffordd arall o adnabod y person hwnnw.