Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Grwp yw'r IAG o bobl sy'n annibynnol ar Heddlu Gwent yn gweithio mewn partneriaeth â ni fel eich 'cyfeillion beirniadol' er mwyn cynghori ar faterion lleol a chenedlaethol.
Mae'r IAG yn bartneriaeth wirioneddol rhwng yr Heddlu a'r Gymuned lle gellir gofyn am gyngor ar bolisi, gweithdrefnau ac arferion, ac mae gwneud hynny yn diogelu enw da gwasanaeth yr heddlu ac yn diogelu rhag effaith andwyol ar unrhyw ran o'r gymuned. (Coleg Plismona)
Mae IAG Heddlu Gwent yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn ac mae ganddo ddwy brif swyddogaeth - yn gyntaf, craffu ar y modd y darperir gwasanaethau (er enghraifft pa mor dda rydym yn ymgysylltu â'r cyhoedd, neu sut y bydd polisi yn effeithio ar y cymunedau lleol) ac yn ail gweithio ochr yn ochr â ni os bydd 'digwyddiad critigol'. Gall digwyddiad critigol fod yn drosedd ddifrifol, ymgyrchu plismona, digwyddiad neu unrhyw beth a all effeithio ar hyder y cyhoedd neu gydberthnasau cymunedol.
Mae cael IAG yn helpu i sicrhau bod Heddlu Gwent yn gweithredu'n deg, heb wahaniaethu ac yn ystyried sut y bydd ein camau gweithredu yn effeithio ar gymunedau.
Hilary, aelod IAG o Gasnewydd:
Rwyf wedi bod yn aelod o IAG ers 6 blynedd ac rwyf wir yn ei fwynhau. Mae'n gyfle da i gael gwybodaeth am sut y mae Heddlu Gwent yn gweithredu a'r materion y maent yn eu hwynebu. Ni chaiff y ffaith bod gen i nam ar fy ngolwg byth ei drin fel rhwystr i wneud unrhyw beth. Rwyf wedi mwynhau ymweld â'r adran trin c?n a'r ystafell Gyfathrebu yn benodol. Rwyf hefyd wedi gwneud rhai ffrindiau hyfryd na fyddwn, fel arall, wedi cyfarfod â nhw.
Nick, aelod IAG o Abercarn:
Mae bod yn aelod o IAG yn fy ngalluogi i achub ar y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol;nid yn unig i'r ffordd y mae'r heddlu yn gwella fel sefydliad, ond hefyd i'r ffordd rydym yn derbyn gwasanaethau cyhoeddus. Yr hyn sy'n arbennig o dda yngl?n â bod yn rhan o'r IAG yw eich bod yn gallu dod i gysylltiad â phobl ar lefelau uwch o'r heddlu sy'n ymrwymedig i ddysgu a gwella yn gyson. Mae gwir ymdeimlad bod eich barn yn cyfrif, a bydd yr hyn rydych yn ei ddweud yn helpu gyda'r gwaith o gynllunio a datblygu heddlu a darparu gwasanaethau.
Mae'n rhaid i chi allu gwneud y canlynol:
Byddai hefyd yn ddefnyddiol pe bai gennych brofiad o'r canlynol:
Membership of the IAG tries to be reflective of the different communities in Gwent Police and no one is excluded from applying. Membership is on a voluntary basis, but travel or other reasonable expenses are refunded.
Mae aelodau yn dod â'u profiadau bywyd a gwybodaeth am eu cymuned benodol i'r grwp, yn ogystal ag unrhyw brofiad proffesiynol neu wirfoddol sydd ganddynt eisoes. Rydym yn chwilio yn benodol am aelodau sy'n nodi eu bod yn
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod o IAG, gallwch lawrlwytho ffurflen gais a ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal.
Am fwy o wybodaeth ac i anfon cais wedi'i gwblhau, anfonwch e-bost atom.