Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pedwerydd asesiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) o adroddiad Effeithiolrwydd, Effeithlonrwydd a Chyfreithlondeb yr Heddlu (PEEL) yn amlinellu sut rydym yn cadw pobl yn ddiogel ac yn lleihau trosedd. Roedd Stopio a Chwilio yn rhan o’r arolwg cyfreithlondeb a gallwch weld yr adroddiad llawn ar wefan HMICFRS.
Bu Heddlu Gwent yn destun Arolwg PEEL HMICFRS yn 2017 a chafodd stopio a chwilio ei adolygu yn rhan o’r arolwg hwnnw. Roedd yr arolwg yn cynnwys gweithdai gyda staff gweithredol a chyfweliadau amrywiol ac adolygiadau o’n prosesau cyfredol.
Gorffennwyd a chyhoeddwyd yr adroddiadau ym mis Rhagfyr 2017. Er bod Gwent wedi cael gradd “Da” yn gyffredinol, cafodd stopio a chwilio ei nodi yn faes yr oedd angen ei wella. Roedd argymhellion yn cynnwys rhoi craffu allanol annibynnol ar waith a defnyddio camerâu corff wrth adolygu defnydd o bwerau stopio a chwilio, yn ogystal â dadansoddiad mwy cynhwysfawr o ddata stopio a chwilio. Mae’r argymhellion hyn wedi cael eu cynnwys mewn cynllun gwella cynhwysfawr. Mae Bwrdd Craffu Gorfodol yng Ngwent yn awr sy’n adolygu stopio a chwilio bob tri mis ac sy’n cynnal hapsamplau ac archwiliadau. Mae detholiad cymysg o’n cofnodion stopio a chwilio yn cael eu hadolygu’n annibynnol gan Banel Cyfreithlondeb a Chraffu Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu bod tri mis. Mae’r panel hwn yn cynnwys gwirfoddolwyr o’r gymuned.
Cwblhaodd HMICFRS Archwiliad Stopio a Chwilio yn 2019 lle bu’n adolygu hap-sampl o chwiliadau. Canfu’r archwiliad bod sail resymol i 79.1% o’n chwiliadau.
Mae BUSS yn fenter a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref yn 2014. Prif nodau'r cynllun yw cyflawni mwy o dryloywder, cynnwys y gymuned wrth ddefnyddio pwerau stopio a chwilio a chefnogi dull gweithredu sy'n cael ei arwain yn fwy gan gudd-wybodaeth, ac sy'n arwain at well canlyniadau, er enghraifft, cynnydd yn y gymhareb stopio a chwilio i ganlyniad cadarnhaol.
Mae pob un o'r 43 o Heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi cofrestru ar ei gyfer yn wirfoddol.
Nodweddion BUSS
Mae Heddlu Gwent wedi cydymffurfio'n llawn â'r cynllun ers ei gyflwyno.
Mae'r Coleg Plismona wedi datblygu diffiniad o stopio a chwilio teg ac effeithiol ar y cyd ag ymarferwyr yr heddlu, uwch swyddogion yr Heddlu ac arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer stopio a chwilio.
Bydd achos o stopio a chwilio yn fwy tebygol o fod yn deg ac effeithiol pan fydd y canlynol yn berthnasol:
Mae pedair elfen graidd yn ategu'r diffiniad:
Yn rhan o’n hymrwymiad i gynllun Defnydd Gorau o Stopio a Chwilio (BUSS) Y Swyddfa Gartref ac i wireddu ein hymroddiad i fod yn agored a thryloyw, rydym yn cyhoeddi ein data am ein defnydd o stopio a chwilio er mwyn i gymunedau Gwent fod yn dawel eu meddwl bod Heddlu Gwent yn defnyddio’r pwerau hyn yn deg.
Craffir ar stopio a chwilio mewn sawl fforwm, mewnol ac allanol, a thrwy arolwg gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS).
Gallwch weld ystadegau stopio a chwilio diweddaraf Heddlu Gwent ar Police.uk.