Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae llawlyfr yr Heddlu Bach wedi ei lunio i’ch helpu chi i sefydlu a chynnal rhaglen Heddlu Bach lwyddiannus gyda chefnogaeth Heddlu Gwent.
Mae'r cynllun Heddlu Bach yn rhaglen wirfoddoli ryngweithiol, llawn hwyl, sy’n cael ei darparu ar y cyd gan Heddlu Gwent ac ysgolion i blant ysgol 9-11 oed.
Mae’r Heddlu Bach yn cefnogi blaenoriaethau'r llu, trwy gyfrannu at amgylchoedd addysgol a chymunedol. Bydd y plant sy'n rhan o'r cynllun yn magu hyder trwy nifer o brofiadau difyr.
Croeso gan ein Prif Gwnstabl
Mae tair elfen i'r Heddlu Bach:
Mae plant ac ysgolion sy'n dod yn rhan o'r rhaglen yn helpu i fynd i'r afael â phroblemau lleol, y mae’r plant yn tynnu sylw atyn nhw yn eu cymuned eu hunain, yn gweithio ochr yn ochr â thimau plismona cymdogaeth lleol ar fentrau atal trosedd ac yn cymryd cyfrifoldeb dros y tasgau.
Nod y rhaglen yw creu dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru, trwy greadigrwydd a dysgu. Byddwn yn meithrin pobl ifanc cadarn ac yn datblygu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i bobl ifanc trwy eu cydweithrediad gyda chymunedau a'r Heddlu.
Nod yr Heddlu Bach yw gweithio gyda phobl ifanc i hyrwyddo a chyflawni'r canlynol:
Eich swyddogion NXTGEN yw eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer dechrau eich Heddlu Bach. Eich Tîm Plismona Cymdogaeth lleol fydd y cyswllt rhwng yr ysgol a’r heddlu. Byddant yn gweithio gyda chi ar brosiectau lleol yn y gymuned ac yn eich helpu chi i wobrwyo’r bobl ifanc. Mae meithrin a datblygu perthynas gref gyda nhw’n hollbwysig er mwyn dod yn Heddlu Bach llwyddiannus
Croeso i ddechrau eich siwrnai!
Am ragor o wybodaeth am blismona yn eich ardal chi ac i ganfod pwy yw eich Swyddogion Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol, cliciwch yma.