Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent wedi lansio ymgyrch i annog pobl i #DdarllenRhwngYLlinellau a helpu pobl a allai fod yn dioddef cam-drin domestig.
Nid yw cam-drin domestig bob amser yn amlwg neu'n weladwy.
Yn aml, nid yw pobl sy'n dioddef yn adnabod eu hunain fel dioddefwyr. Weithiau mae angen help arnyn nhw i gymryd y cam cyntaf a dianc oddi wrth eu camdriniwr, fel mae Prif Gwnstabl Pam Kelly yn pwysleisio;
"Rydym yn gwybod nad yw cartref yn lloches i bawb felly mae'n bwysig bod pawb ohonom yn cydweithio i helpu pobl mewn angen.
"Cadwch mewn cysylltiad ag aelodau'r teulu a ffrindiau, os oes angen cymorth ar rywun siaradwch â nhw. Efallai na fyddan nhw'n barod i siarad â chi ond mae llawer o sefydliadau sy'n cynnig cymorth a chyngor.
"Nid yw cam-drin domestig yn gwahaniaethu - gall unrhyw un fod yn ddioddefwr, beth bynnag yw eu hoedran, rhywedd, rhywioldeb neu gefndir cymdeithasol ac wrth gwrs, nid yw bob amser yn drosedd sy'n amlwg, gall fod yn gudd, felly mae angen i ni gadw golwg ar bobl a helpu pobl sy'n dioddef."
“Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth wrth roi cymorth i rai o aelodau mwyaf bregus ein cymuned."
Gall cam-drin domestig fod ar sawl ffurf, gan gynnwys:
Os ydych chi'n ddioddefwr, neu os ydych chi'n pryderu am rywun rydych yn eu hadnabod, gallwch ffonio llinell gymorth Byw Heb Ofn ddydd a nos am gyngor a chymorth:
Ffôn: 0808 80 10 800
Neges destun: 078600 77 333
Gallwch ffonio Heddlu Gwent ar 101 hefyd neu anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.