Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Er bod ymosodiadau terfysgol yn brin, mae’n helpu i fod yn barod ar gyfer digwyddiadau o’r fath. Os ydych chi’n cael eich dal mewn ymosodiad, cofiwch y geiriau: Rhedwch. Cuddiwch. Dywedwch.
Ffoniwch 999 - Pa wybodaeth sydd ei hangen ar yr heddlu? Os na allwch chi siarad neu wneud sŵn, gwrandewch ar y cyfarwyddiadau gan y person ar y ffôn:
Mae’r ffilm pedwar munud o hyd Stay Safe: Firearms and Weapons Attack yn dangos y tri prif gam y dylid eu cymryd er mwyn aros yn ddiogel. Mae taflen wybodaeth ar-lein yn cyd-fynd â’r ffilm.
Mae’r ffilm a’r daflen yn eich cynghori os byddwch yn canfod eich hun yng nghanol digwyddiad y dylech 'redeg, cuddio a dweud' – canllawiau y gellir eu defnyddio mewn nifer o leoedd a sefyllfaoedd.
Trawsgrifiad o’r ffilm Stay Safe: Firearms and Weapons Attack
Diolch byth, mae ymosodiadau gyda gynnau ac arfau yn y DU yn brin iawn, ond mae digwyddiadau trasig mewn rhannau eraill o’r byd yn ein hatgoffa bod angen i ni bob amser fod yn barod.
Mae’r ffilm hon yn rhoi cyngor ynglŷn â beth i’w wneud pe byddai ymosodiad gyda gynnau, naill ai yn eich gweithle neu yn rhywle arall. Dylech weld hyn fel cyfle i gynllunio sut y byddech yn ymateb i fygythiad o’r fath a chadw’n ddiogel.
Mark Rowley: “Ffilm sy’n seiliedig ar gyngor cadarn yw Stay Safe ac mae eisoes wedi cael ei gwylio gan dros 100,000 o bobl ar draws y wlad mewn sesiynau hyfforddi a briffio yn y sector preifat.
“Lefel y bygythiad ar hyn o bryd yw ‘difrifol’, golyga hynny bod ymosodiad yn debygol iawn. Yn wir, mae wedi bod ar y lefel honno am dros flwyddyn ac oherwydd hynny rydym wedi dwysau ein hymdrechion drwy, er enghraifft, arestio rhywun bob dydd.
“Mae pawb yn ymwybodol o’r heriau terfysgol ledled y byd ac fe fu ymosodiadau ofnadwy. Ein barn ni yw y dylai'r cyngor hwn gael ei gyflwyno i’r cyhoedd felly pe bai rhywun yn canfod ei hun mewn ymosodiad gyda gynnau neu arfau, bydd ganddynt well gwybodaeth a byddant wedi’u cynghori ar sut i ddiogelu eu hunain. Ni all fyth ddarparu ar gyfer pob posibilrwydd ac os bydd rhywun yn gweithredu ar reddf ac efallai’n penderfynu ymladd gan nad oes ganddo ef neu hi ddewis, yna wrth gwrs ni fyddem yn eich beirniadu am wneud hynny”.
Os byddwch yn clywed gwn yn cael ei danio, y dewis gorau yw gadael yr adeilad ond dim ond os na fyddwch yn rhoi eich hun mewn mwy o berygl.
Yn gyntaf, ystyriwch eich llwybr.
Gweithredwch yn gyflym a thawel, gan adael eich eiddo yno.
Mynnwch fod pobl eraill yn dod gyda chi, ond peidiwch â gadael i’w petrustod eich arafu chi.
Unwaith eich bod wedi penderfynu ar lwybr diogel, rhedwch.
Ystyriwch eich llwybr wrth i chi adael:
Pan fyddwch yn chwilio am le i guddio, ystyriwch eich llwybrau dianc. Osgowch lwybrau caeedig a mannau cul.
Bydd gan y man cuddio gorau sy’n amddiffyn rhag ergydion gwn rwystr ffisegol rhyngoch chi a’r ymosodwr.
Ffoniwch yr heddlu.
Ffoniwch 999 a dywedwch yn glir wrthynt beth yw eich lleoliad chi a’r ymosodwyr, disgrifiad o’r ymosodwyr, eu dillad ac arfau, gwybodaeth am y rhai sydd wedi’u hanafu a mynediad i’r adeilad.
Cofiwch gynnwys unrhyw beth yr ydych chi’n teimlo sy’n bwysig.
Pan fydd yr heddlu’n cyrraedd, byddant yn arfog.
Unwaith y bydd hi’n ddiogel cewch eich symud yn ddiogel.
Mae ymosodiadau gyda gynnau neu arfau yn brin iawn; bydd bod â chynllun yn eich helpu i gadw’n ddiogel a gallai arbed bywydau.
Canfod rhagor am gadw'n ddiogel rhag terfysgaeth.