Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Action Fraud yw’r ganolfan riportio genedlaethol ar gyfer twyll a seiberdroseddu, a dyma lle dylech chi riportio achosion os ydych chi wedi cael eich sgamio, eich twyllo neu brofi seiberdrosedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae modd riportio trosedd unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy ddefnyddio’r teclyn adrodd ar-lein.
Mae riportio ar-lein yn gyflym ac yn hawdd. Bydd y teclyn yn eich tywys drwy gwestiynau syml i nodi beth ddigwyddodd, ac mae ymgynghorwyr ar gael ar sgwrs we 24 awr y dydd i roi cymorth a chyngor i chi os oes angen.
Pan fyddwch chi’n riportio trosedd i ni byddwch yn cael rhif cyfeirnod trosedd yr heddlu. Bydd achosion a gaiff eu riportio yn cael eu pasio ymlaen i’r Biwro Cudd-wybodaeth Twyll Cenedlaethol. Nid yw Action Fraud yn ymchwilio i droseddau.
Caiff achosion a gaiff eu riportio i Action Fraud eu hystyried i’w hasesu neu eu cyfeirio at yr heddlu (neu asiantaeth gorfodi’r gyfraith arall) gan y Biwro Cudd-wybodaeth Twyll Cenedlaethol, a gaiff ei weithredu gan Heddlu Dinas Llundain.
Unwaith y bydd achosion wedi’u cofnodi gan Action Fraud, cânt eu hasesu ar sail Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref, sef y safonau mae’r heddlu yn eu defnyddio i fesur cofnodi troseddau. Drwy baru data, mae modd cysylltu gwybodaeth am achosion o wahanol rannau o’r wlad er mwyn ei dadansoddi. Yna, caiff adroddiadau eu brysbennu er mwyn penderfynu pwy sy’n wynebu’r perygl, bygythiad neu niwed mwyaf.
Mae’r adroddiadau hyn a brysbennwyd yn cael eu hasesu gan adolygwyr troseddau profiadol sy’n ystyried hyfywedd pob adroddiad, neu gyfres o adroddiadau lle mae’n ymddangos bod cysylltiad rhyngddynt. Bwriad y prawf hyfywedd yw sicrhau bod llwybrau ymholi cynhwysfawr ar gyfer yr heddlu, neu asiantaeth gorfodi’r gyfraith arall, i’w dilyn. Caiff troseddau sy’n ateb y prawf hyfywedd eu cyfeirio at yr heddlu neu asiantaeth gorfodi’r gyfraith briodol i weithredu arnynt. Efallai nad eich heddlu lleol fydd y derbynnydd bob amser.
Mae gwybodaeth rydych chi’n ei rhannu am gyfrifon banc, gwefannau a rhifau ffôn sy’n cael eu defnyddio gan dwyllwyr yn cael eu darparu’n rheolaidd i bartneriaid yn y diwydiant fel bod modd iddyn nhw eu hatal rhag cael eu defnyddio yn erbyn dioddefwyr yn y dyfodol.
Ni fydd pob adroddiad yn arwain at ymchwiliad, ond mae pob adroddiad yn gymorth i greu darlun o droseddu ac yn cael ei gadw er gwybodaeth yn y dyfodol.
Os ydych chi wedi cofrestru fel dioddefwr neu ohebydd dirprwyedig ar system Action Fraud, byddwch yn cael diweddariadau awtomatig drwy eich cyfrif personol. Byddwch hefyd yn cael diweddariadau drwy’r post.
Os hoffech gael diweddariad gwahanol i’r uchod, neu os nad ydych wedi cofrestru ag Action Fraud, yna mae modd gwneud cais am ddiweddariad drwy’r cyfleuster ‘Cysylltu â ni’ ar wefan Action Fraud.
Os yw’ch adroddiad yn cael ei ddosbarthu i heddlu, byddwch yn cael gwybod enw’r heddlu sy’n ei dderbyn. Ar ôl i’ch adroddiad gael ei ddosbarthu, mae’r heddlu sy’n ei dderbyn yn cymryd cyfrifoldeb dros rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am hynt eich achos gyda chi.
Bydd pob heddlu (neu asiantaeth gorfodi’r gyfraith arall) yn adolygu ac yn asesu cyfeiriadau gan y Biwro Cudd-wybodaeth Twyll Cenedlaethol. Byddan nhw’n brysbennu’r adroddiadau yma’n seiliedig ar fygythiad, risg a niwed a blaenoriaethau lleol a bennwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd eu hardal. Bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu ar gynnydd eich adroddiad.
Os bydd heddlu’n penderfynu peidio â chymryd camau pellach, byddan nhw’n rhoi gwybod i chi a’r rhesymeg dros eu penderfyniad.
Mewn achosion lle na fydd ymchwiliadau troseddol yn cael eu cynnal neu pan na fyddant yn arwain at ddedfryd, gallech ystyried opsiynau eraill er mwyn adfer eich colledion. Mae yna Asiantau Adfer Asedau Sifil a allai weithredu ar eich rhan i adfer asedau troseddol sy’n cynrychioli rhai neu’r cyfan o’ch colledion.
Cyn dewis Asiant Adfer Asedau Sifil, dylech gynnal gwiriadau digonol i sicrhau eu bod yn ddilys. Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn cadw manylion am Asiantau Adfer Asedau Sifil twyllodrus hysbys.
Os byddwch yn dewis defnyddio Asiant Adfer Asedau Sifil, dylech ddiweddaru eich adroddiad Action Fraud i gynnwys eu manylion. Mae modd gwneud hyn drwy eich cyfrif personol neu drwy’r cyfleuster ‘Cysylltu â ni’ ar wefan Action Fraud os nad ydych wedi cofrestru ag Action Fraud.