Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwyddom y gall troseddu fod yn drychinebus i fusnesau o bob maint. Nid ydym eisiau iddo ddigwydd i chi, felly byddwn yn eich cefnogi yn y ffyrdd canlynol:
Os ydych chi'n fusnes sy'n masnachu nwyddau ail-law:
Pam?
Os oes gennych unrhyw amheuaeth o gwbl bod yr eitem wedi'i ddwyn, cysylltwch â ni a byddwn yn ymchwilio i hyn.
Rydym hefyd yn anfon rhybuddion am eiddo sydd wedi'i dwyn yn rheolaidd at fanwerthwyr i rannu manylion unrhyw eiddo sydd wedi'i ddwyn ac sydd yn cylchredeg.
Pan fyddwch yn cynnal trafodion gydag aelod o’r cyhoedd, cofiwch y canlynol:
Os oes gennych chi unrhyw amheuon am yr eitem neu’r gwerthwr, cysylltwch â ni ar 101.
Ffoniwch 999 bob tro os oes argyfwng.
Mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i leihau'r risg o ddioddef lladrad tanwydd.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Dylech osod goleuadau diogelwch i oleuo unrhyw weithgarwch amheus, ac os oes camerâu teledu cylch cyfyng (CCTV) wedi’u gosod ar y safle neu eiddo, dylai'r goleuo gael ei ddylunio i gyd-fynd â hynny ac ni ddylai achosi cysgodion na thaflu golau ar lens y camera a all atal neu gyfyngu ar y delweddau sy'n cael eu recordio.
Mae CCTV sy’n gallu cael ei fonitro o bell yn rhwystr, a byddant yn helpu i ddiogelu ffermydd a safleoedd adeiladu. Oherwydd natur anghysbell rhai o'r safleoedd hyn a'r ardal ddaearyddol maen nhw’n ei gwasanaethu, dylai unrhyw systemau CCTV recordio ardaloedd risg uchel, fel tanciau tanwydd. Gall monitro o bell bob awr o’r dydd gan Ganolfan Derbyn Larwm (ARC) gadarnhau’r rheswm dros larwm sy’n seinio a nodi unrhyw weithgarwch amheus.
Gallech ystyried defnyddio unedau CCTV symudol a system PIDS ar safleoedd bregus. Mae'r systemau hyn wedi'u cynllunio ar gyfer safleoedd adeiladu, ac fel unedau unigol - gellir eu gosod a’u defnyddio’n gyflym ac maent yn ddefnyddiol ar gyfer ardaloedd bregus. Gall y rhain anfon neges ar unwaith i reolwr y safle, yn ogystal â delwedd o ansawdd da o'r unigolyn sydd yng ngolwg y camera. Mae modd eu cysylltu â Chanolfan Derbyn Larwm hefyd i gadarnhau’r rheswm dros larwm sy’n seinio a nodi unrhyw weithgarwch amheus. Mae gan Diogelu drwy Ddylunio (SBD) sawl aelod sy'n arbenigo yn y maes hwn a gallan nhw roi cyngor i chi ar yr ateb gorau.
Gwnewch yn siŵr nad oes dim byd yn rhwystro’r camerâu CCTV sydd wedi’u gosod, neu nad yw’r ardal recordio wedi’i chyfyngu gan gerbydau mawr sydd wedi’u parcio ar y safle. Cyfrifoldeb rheolwr y safle ddylai hyn fod yn ystod y dydd, a dylai staff diogelwch wirio hyn pan fyddant yn dechrau eu sifftiau.
Rhaid cynnal a chadw tirlunio a llystyfiant a allai gyfyngu ar ardal recordio’r camerâu yn ystod y tymhorau tyfu, a'u tocio er mwyn sicrhau nad ydynt yn rhwystro’r camerâu.
Defnyddiwch arwyddion i dynnu sylw at y mesurau diogelwch rydych wedi'u gosod. Gall hyn helpu i atal troseddwyr sy’n cerdded drwy'r safle’n hamddenol i geisio cael gwell syniad o’r mesurau diogelwch. Gallai’r arwyddion yma gynnwys: Eiddo Preifat, Cadwch Allan, Camerâu CCTV ar waith, Caiff pob cerbyd ei adael heb lawer o danwydd, Patrolau diogelwch ar waith.
Dylech ddiogelu cerbydau a pheiriannau mewn cwrt neu gynhwysydd os yn bosib, a defnyddio capiau sy’n cloi ar danciau tanwydd a dyfeisiau gwrth-seiffon.
Defnyddiwch systemau larwm sy’n cael eu sbarduno gan dresmaswyr, a all fod â seinydd lleol neu sy’n anfon signalau sy'n cael eu monitro o bell.
I gael rhagor o wybodaeth am larymau, ewch i https://www.policesecuritysystems.com/
Yn dibynnu ar y bygythiad a'r risg i'r safle cyfan, gall swyddogion diogelwch fod yn ddull ataliol gweladwy hynod effeithiol.
Dylai unrhyw gwmni sy'n darparu swyddogion diogelwch gael ei gymeradwyo gan Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA) o dan eu cynllun contractwyr cymeradwy.
Os oes gennych chi gwestiwn am Dangos y Drws i Drosedd neu drosedd meddiangar yng Ngwent:
Os ydych am gysylltu â Heddlu Gwent ynghylch mater arall neu i riportio trosedd, gallwch anfon neges uniongyrchol atom ar gyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch 101 neu 999 mewn argyfwng.