Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, mae Heddlu Gwent wedi lansio ymgyrch newydd i anfon neges glir nad oes esgus dros aflonyddu rhywiol tuag at fenywod.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod Gwent yn ddiogel i bawb, a dim ond un dull yw’r ymgyrch hon o sicrhau bod aflonyddu rhywiol yn cael ei ddileu.
Dim ond.....
P'un a yw gyda ffrindiau neu yn dy isymwybod dy hun, mae dau air bob amser yn ymddangos fel esgus dros ymddygiad amhriodol - ‘DIM OND’.
Yn rhy aml, mae dynion yn cuddio y tu ôl i'r geiriau hyn fel cyfiawnhad dros eu hymddygiad amhriodol. Mae'n bryd rhoi'r gorau i wneud esgusodion ac atal yr aflonyddu.
Mae'n bryd rhoi'r gorau iddi....
Gall dy syniad di o beth sy'n briodol wneud i rywun arall deimlo'n anghyfforddus, yn ofnus neu'n ofidus. Dylai pob menyw a merch allu byw eu bywydau heb ofni aflonyddu.
Does dim esgus dros:
Rydw i wedi cael llond bol o wneud esgusodion – pryderus am dy ymddygiad dy hun
Mae gan bob un ohonom ddewis, o ran yr hyn yr ydym yn ei ddweud neu sut yr ydym yn gweithredu. Os wyt ti’n meddwl bod angen cymorth arnat ti ac eisiau rhoi'r gorau i wneud esgusodion dros dy ymddygiad, gall Respect helpu.
Mae Respect yn wasanaeth am ddim, sy'n cynnig cymorth anfeirniadol os wyt ti’n pryderu am dy ymddygiad dy hun.
Ffôn: 0808 8024040
E-bost: [email protected]
Gwe-sgwrs: https://respectphoneline.org.uk/
Rydw i wedi cael llond bol o esgusodion – pryderus am ymddygiad rhywun arall
Mae cael yr hyder i herio esgusodion ac ymddygiad rhywun arall yn gam mawr, ond gan weithio gyda sefydliadau partner a'r heddlu gallwn ni dy gefnogi drwy'r broses hon.
Galli di ein ffonio'n uniongyrchol ar 101 neu mewn argyfwng ffonia 999 bob amser. Galli di hefyd anfon neges atom ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn @HeddluGwent.
Mae nifer o sefydliadau cymorth a all dy helpu drwy'r broses hon hefyd: