Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae strategaeth tri cham newydd yn cael ei chyflwyno yn Rhymni i gael gwared ar droseddwyr difrifol, mynd i’r afael â throseddu ac adfer balchder yn yr ardal.
Nod Clirio, Cynnal, Adeiladu, tacteg partneriaeth sydd wedi’i chynllunio gan y Swyddfa Gartref, yw achub ac adfywio ardaloedd y mae troseddau difrifol a chyfundrefnol wedi effeithio arnynt.
Bydd ein menter ni, a elwir yn lleol yn Parchu Rhymni, yn gweld swyddogion yr heddlu yn defnyddio amrywiaeth o ymgyrchoedd i dargedu grwpiau troseddol, tarfu arnynt a’u hatal rhag gweithredu.
Mae llawer o waith da wedi’i wneud eisoes, gyda swyddogion yn gweithio’n galed dros y flwyddyn ddiwethaf i gynnal ymchwiliadau ac arestio a chollfarnu wyth aelod o grŵp troseddau cyfundrefnol. Dedfrydwyd yr wyth i gyfanswm o 30 mlynedd a saith mis yn y carchar.
Ond mae’r gwaith caled yn parhau.
Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn mynd ati’n ddiflino i fynd ar ôl troseddwyr, gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod Rhymni yn parhau i fod yn ddiogel, ac yna, ar y cyd â phartneriaid, ymgymryd â gwaith i adfywio’r amgylchedd a’r cymunedau amgylchynol – i sicrhau ei bod yn gymuned rydym i gyd yn falch ohoni.
Mae tri cham i’r gwaith rydym yn ei wneud fel rhan o fenter Parchu Rhymni.
Drwy fynd ar ôl aelodau gangiau yn ddiflino, byddwn yn clirio’r ardal o droseddau difrifol.
Bydd ein gweithgarwch gorfodi ac ymgysylltu yn parhau er mwyn cynnal yr ardal ac atal grwpiau troseddau cyfundrefnol eraill rhag llenwi’r bwlch.
Drwy weithio gyda phreswylwyr a phartneriaid, byddwn yn gweithio i adeiladu ardal fwy llewyrchus y mae’r trigolion yn falch ohoni ac sy’n llai agored i gael ei hecsbloetio gan grwpiau troseddau cyfundrefnol.
Prosiect hirdymor yw hwn. Mae’r gwaith wedi dechrau eisoes, ac mae ein swyddogion wedi llwyddo i ddal sawl troseddwr difrifol a chael gwared ar gyffuriau oddi ar y strydoedd, ond bydd eu hymdrechion yn parhau a, gyda phartneriaid, byddwn yn mynd ati i adfywio’r ardal ac adfer balchder yn y dref.
Drwy gydweithio, byddwn yn sicrhau bod Rhymni yn amgylchedd digroeso i droseddwyr cyfundrefnol, ac yn diogelu’r rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r ardal.
Bydd ein gwaith hefyd yn helpu i ddiogelu’r rhai sy’n agored i gael eu rheoli gan gangiau, ac yn adfer balchder yn y dref drwy adfywio ardaloedd lle nodwyd bod llawer o weithgarwch anghyfreithlon yn digwydd. Bydd y gwaith hwn o adfer Rhymni yn helpu cymunedau i adeiladu gwydnwch hirdymor ac atal bygythiadau yn y dyfodol.
Byddwn ni’n cymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai yr amheuir eu bod yn cyflawni gweithgarwch troseddol, a bydd partneriaid fel tîm Diogelwch Cymunedol Caerffili Saffach, Safonau Masnach, Iechyd yr Amgylchedd, Gwasanaethau Ieuenctid CBSC, Tai a Gorfodi Tenantiaeth CBSC, Timau Trwyddedu CBSC, DVSA a mwy, yn gweithio gyda ni i sicrhau bod Rhymni yn lle mwy diogel.