Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod ein cynllun LEAD yw annog pobl i fod yn berchnogion cyfrifol ar gŵn o bob brid - er mwyn gwella diogelwch y cyhoedd, lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a sicrhau bod pobl yn gofalu ar ôl cŵn yn briodol.
Trwy weithio gyda phartneriaid awdurdod lleol, rydym yn rhoi cyngor i'r cyhoedd ar broblemau'n ymwneud â chŵn, gwella diogelwch yn y gymuned ac edrych ar les cŵn.
Fel partneriaeth, rydym yn cymryd camau gweithredu i wneud ein cymunedau'n fwy diogel i bawb trwy:
Mae amseroedd pan mae angen i'r heddlu ymateb, rhoi mesurau rheoli ar waith ac, yn y pen draw, erlyn troseddwyr.
Byddwn yn ymyrryd:
I gael mwy o wybodaeth am fridiau wedi'u gwahardd, a'r hyn rydym yn ei wneud i amddiffyn y cyhoedd rhag cŵn peryglus, ewch i'r dudalen genedlaethol.
Os yw ein partneriaeth yn derbyn adroddiadau am berchnogion cŵn anghyfrifol, neu alwadau mynych am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â chŵn, rydym yn cymryd nifer o gamau i amddiffyn y cyhoedd.
Gall y rhain gynnwys anfon llythyrau o rybudd, cyflwyno contractau ymddygiad derbyniol a chyflwyno gorchmynion diogelu mannau agored cyhoeddus.
Os ydych chi wedi cael problem yn ymwneud â chŵn yn eich cymdogaeth, rydym eisiau sicrhau eich bod chi'n cysylltu â'r person iawn, ar yr adeg iawn, er mwyn i ni allu helpu.
Mae gwahanol sefydliadau o fewn partneriaeth LEAD yn gyfrifol am ymateb i alwadau penodol. Dyma ddadansoddiad er mwyn i chi wybod pwy sy'n gallu helpu eich ymholiad.
Yr Heddlu | cysylltwch â'r heddlu ar 101, y cyfryngau cymdeithasol neu'r wefan os oes gennych chi unrhyw wybodaeth ynglŷn â bridiau anghyfreithlon, cŵn peryglus, ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig â chŵn neu pan fydd cŵn yn ymwneud ag unrhyw weithgarwch troseddol. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.
Awdurdod lleol | gall eich cyngor lleol helpu gydag adroddiadau am gŵn swnllyd, cŵn yn baeddu, bridiau anghyfreithlon neu gŵn crwydr.
RSPCA | ffoniwch yr RSPCA ar 0300 1234 999 os oes gennych chi bryderon am iechyd a lles cŵn.
1,184KB
1,314KB
1,737KB