Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae twyll rhamant yn digwydd pan fydd twyllwyr yn defnyddio proffil ffug i gysylltu â rhywun ar gyfryngau cymdeithasol neu ap chwilio am gymar. Byddant yn dechrau perthynas gydag un pwrpas – i gael y dioddefwr i anfon arian atyn nhw.
Mae twyllwyr yn buddsoddi llawer o amser yn paratoi eu dioddefwyr er mwyn eu cael nhw i ymddiried ynddyn nhw a syrthio mewn cariad gyda nhw cyn gofyn iddyn nhw am arian.
Ydych chi wedi bod yn sgwrsio ar-lein gyda rhywun o’r lluoedd arfog, rhywun sy’n feddyg mewn gwlad dramor, sy’n gweithio ar rig olew, neu sydd wedi dweud eu bod nhw’n gweithio dramor ar hyn o bryd?
Ydyn nhw wedi gofyn i chi anfon arian atyn nhw, neu gael taleb iddyn nhw, am y rhesymau canlynol:
dim mynediad at eu cyfrif banc oherwydd bod yr heddlu neu’r fyddin wedi ei feddiannu
maen nhw angen arian i fynd adref
maen nhw wedi cael eu harestio ar y ffordd i’r maes awyr
maen nhw wedi bod mewn damwain ar y ffordd i’r maes awyr ac angen arian i dalu biliau meddygol.
Os ydych chi, mae’n bosibl eich bod chi wedi dioddef twyll rhamant.
Bydd eu llun proffil wedi cael ei ddwyn o broffil person diniwed.
Bydd eu cyfrif, boed ar gyfryngau cymdeithasol neu ar ap chwilio am gymar, yn newydd ac ychydig iawn o wybodaeth neu negeseuon fydd arno.
Yn aml, maen nhw’n gwrthod galwadau fideo ac yn gwneud esgusodion os ydych chi’n gofyn i siarad ar y ffôn.
Efallai byddant yn gofyn i chi guddio eich perthynas rhag eich teulu a ffrindiau.
I riportio twyll rhamant, cysylltwch ag Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ewch i’r wefan www.actionfraud.police.uk.
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn gallu rhoi cymorth emosiynol i ddioddefwyr pob mathau o droseddau hefyd, os ydynt wedi cael eu riportio wrth yr heddlu neu beidio. I gael cymorth a gwybodaeth, cysylltwch â llinell gymorth 24/7 am ddim yr elusen ar 0808 168 9111 neu ewch i’r wefan www.victimsupport.org.uk.
Pan fyddwch chi ar-lein, cofiwch: