Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Ni fydd ein gwaith i wneud eich cymuned a'ch strydoedd yn saffach i bawb byth yn dod i ben. Dyma gasgliad o bopeth rydyn ni'n ei wneud, popeth rydyn ni wedi ei ddarparu, ar eich strydoedd, yn eich cymuned.
Yn ddiweddar, gwnaethom sicrhau £746,702 o gyllid ychwanegol i'w ddefnyddio i roi sylw i ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau cysylltiedig yn Alway yng Nghasnewydd, Coed-duon, Brynmawr, Cil-y-coed, Cwmbrân a Thredegar.
Ym mis Ebrill 2021, derbyniodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent bron i £700,000 gan y Swyddfa Gartref. Gwnaethom ddefnyddio'r arian hwn i atal byrgleriaeth, lladrad a dwyn ym Mhilgwenlli yng Nghasnewydd, a Rhymni yng Nghaerffili.
Rydyn ni wedi helpu trigolion i wneud eu cartrefi'n fwy diogel.
Rydyn ni wedi ariannu gwaith i osod offer gwella diogelwch mewn adeiladau sydd wedi cael eu nodi fel rhai sy'n agored i droseddau fel byrgleriaeth.
Rydyn ni wedi cynnal digwyddiadau galw heibio ac wedi rhoi pecynnau atal trosedd a marcio eiddo am ddim i drigolion i'w helpu nhw i ddiogelu eu heiddo gwerthfawr.
Rydyn ni wedi gweithio gyda busnesau a gwerthwyr nwyddau ail law i roi offer marcio eiddo a hyfforddiant iddynt er mwyn iddynt allu adnabod eiddo wedi'i ddwyn yn hawdd a'i ddychwelyd i'w berchnogion. Mae hyn hefyd yn helpu i erlyn pobl sy'n cyflawni'r mathau hyn o droseddau.
Rydyn ni wedi gweithio gyda chynghorau lleol i osod camerâu CCTV ychwanegol, mwy o oleuadau stryd a bolardiau golau mewn lleoliadau allweddol.
Rydyn ni wedi sefydlu cynllun Mannau Diogel yn Y Fenni a Chasnewydd ar gyfer busnesau lleol. Mae hyn yn eu helpu nhw i ddarparu llefydd diogel i fenywod a merched a allai fod yn teimlo'n anniogel.
Rydyn ni wedi cefnogi sefydliadau lleol fel Cwmni Theatr Tin-Shed yng Nghasnewydd, Ambika Social yn Linda Vista Gardens yn Y Fenni a Ffrindiau Parc Bailey, hefyd yn Y Fenni. Mae'r sefydliadau hyn yn angerddol dros greu mannau diogel a chroesawgar i'w cymunedau ac maen nhw'n gweithio'n lleol i gyflawni hyn.
Mae cynllun addysgol wedi cael ei ddarparu i ysgolion, prifysgolion a grwpiau ieuenctid i helpu i newid agweddau ac ymddygiad annerbyniol tuag at fenywod a merched, rhoi cyngor diogelwch iddyn nhw a'u hannog nhw i riportio troseddau.
Rydyn ni wedi darparu dosbarthiadau ffitrwydd a lles i ddatblygu hyder menywod a merched.
Rydyn ni wedi cydweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd a Newport NOW i gyflogi dau lysgennad nos yng nghanol y ddinas ac yn Stow Hill. Maen nhw'n helpu i dawelu meddwl pobl ac yn gweithio gyda'r heddlu i helpu i gadw pobl yn ddiogel yn y nos.
Rydyn ni wedi ariannu murlun lliwgar ym Mhilgwenlli i ddathlu'r gymuned amrywiol a bywiog yn yr ardal. Bydd y murlun hwn yn helpu i greu ymdeimlad o berchnogaeth a balchder yn yr ardal.
Rydyn ni wedi gweithio gyda phartneriaid i gael gwared ar graffiti a thorri brigau a dail yn ôl mewn ardaloedd lle mae trosedd yn fwy tebygol o ddigwydd. Mae hyn yn gwella'r amgylchedd ac yn ei gwneud hi'n fwy anodd i droseddwyr gyflawni troseddau heb gael eu gweld.
I gael rhagor o wybodaeth am ein prosiect Strydoedd Saffach yng Ngwent, e-bostiwch [email protected].