Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Cronfa grantiau gan y Swyddfa Gartref yw Strydoedd Saffach sy'n cefnogi'r heddlu i fynd i'r afael â throseddau cymdogaeth.
Mae modd gwario’r cyllid ar amrywiaeth o ymyraethau, gan gynnwys gwelliannau diogelwch cartref, mwy o oleuadau stryd, mwy o gamerâu CCTV, tactegau cudd i atal troseddau cymdogaeth a chamau dargyfeiriol i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Rydym wedi defnyddio peth o'r arian a roddwyd i ni i osod mesurau diogelwch cartref yn Rhymni a Philgwenlli, danfon pecynnau atal trosedd (sydd wedi cynnwys pecynnau marcio eiddo SmartWater), gosod goleuadau stryd a chamerâu CCTV ychwanegol a chyflwyno rhaglenni addysgol i wella diogelwch menywod a merched yng Ngwent.
Beth nesaf? Ar hyn o bryd rydym yn cynllunio ein prosiect newydd, a fydd yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn chwe ardal yng Ngwent.
Rydym yn gweithio gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent yn ogystal â'r pum awdurdod lleol ar draws y rhanbarth. Rydym hefyd yn gweithio gyda chymdeithasau tai a chontractwyr ar gyfer gosod dyfeisiau diogelwch cartref ac, ar brosiectau blaenorol, rydym wedi gweithio gyda sefydliadau llawr gwlad i ariannu a darparu ymgyrchoedd lleol.
Rydym eisiau sicrhau ein bod yn helpu ein cymunedau yn y ffordd orau posibl.
Yn ystod pob prosiect Strydoedd Saffach, rydym wedi siarad â thrigolion i ddeall pwy fyddai'n cael y budd mwyaf o eitemau fel clychau drws CCTV a goleuadau diogelwch. Mae'r rhain wedi cael eu rhoi i bob cartref sydd wedi cael eu byrglera yn y gorffennol neu sydd angen diogelwch ychwanegol.
Rydym wedi rhoi pecynnau diogelwch cartref a cherbyd am ddim i bobl sy'n cynnwys larymau ffenestri, goleuadau ar amserydd a larymau ymosodiad personol, ac rydym wedi cofrestru cannoedd o gartrefi gyda SmartWater er mwyn amddiffyn eu heiddo gwerthfawr.
Rydym wedi dadansoddi data trosedd ac wedi siarad â'n partneriaid mewn awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i sicrhau ein bod yn cyrraedd y bobl iawn a, dros y misoedd nesaf, byddwn yn siarad â'r bobl a fydd yn dod yn gymwys yn ystod y rownd ariannu nesaf.
Cyn darparu pob prosiect, rydym yn cynnal sesiynau galw heibio i'r cyhoedd, lle gallant gwrdd â swyddogion a dysgu beth fydd y prosiect yn ei wneud i'w hardal nhw.
Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol hefyd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn deall y problemau mae pobl ledled Gwent yn eu hwynebu. Rydym wedi siarad â thrigolion, busnesau a phobl eraill yn y gymuned ac wedi nodi amrywiaeth o weithgareddau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a lleihau trosedd.
Hyd yn hyn, mae'r cyllid rydym wedi ei dderbyn wedi cael ei ddyrannu i fynd i'r afael â throseddau cymdogaeth yn yr ardaloedd canlynol: Pilgwenlli, Rhymni, Y Fenni, Alway yng Nghasnewydd, Coed-duon, Brynmawr, Cil-y-coed, Cwmbrân a Thredegar.
Ond, ble bynnag yng Ngwent rydych chi’n byw, rydym ni yma i roi cymorth i chi. Mae tîm Dangos y Drws i Drosedd yn dîm pwrpasol sy'n arbenigo mewn mynd i'r afael â dwyn, byrgleriaeth a throseddau cerbydau trwy Went gyfan. Os hoffech chi fwy o wybodaeth am eu gwaith, ewch i Cymdogaethau Mwy Diogel | Heddlu Gwent.
Byddwn yn parhau i weithredu yn sgil unrhyw wybodaeth gennych chi am unrhyw drosedd yn eich ardal - felly, plîs, ffoniwch 101, neu 999 mewn argyfwng.
Mae ein prosiect nesaf yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau cymdogaeth yn Alway yng Nghasnewydd, Coed-duon, Brynmawr, Cil-y-coed, Cwmbrân a Thredegar.
Bydd y prosiect yn rhedeg o fis Awst 2022 tan fis Medi 2023, ac yn ystod y cyfnod hwn byddwn yn darparu amrywiaeth eang o fesurau trwy'r chwe ardal hyn.
Byddwn yn rhyddhau mwy o fanylion ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ystod y misoedd nesaf i roi gwybod i bobl ble a phryd bydd y gwaith hwn yn digwydd. Yn y cyfamser, os hoffech chi gael unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â'r tîm: [email protected]
Rydyn ni’n gwybod bod dioddef trosedd yn gallu peri gofid a straen. Dydyn ni ddim am iddo ddigwydd i chi, felly rydyn ni’n defnyddio mesurau ataliol i’w atal rhag digwydd.
Os ydych chi eisoes wedi dioddef achos o ddwyn, lladrad, byrgleriaeth neu drosedd cerbyd, gall tîm Dangos y Drws i Drosedd eich helpu rhag iddo ddigwydd eto.
Yn ôl ystadegau, rydyn ni’n gwybod y bydd troseddwyr yn dueddol o gyflawni trosedd mewn ardal maen nhw wedi’i thargedu eisoes.
Bydd y gwaith yma’n helpu i atal hynny rhag digwydd i chi.
Rydyn ni’n defnyddio dulliau sydd wedi’u profi i leihau troseddau a gwneud yr ardaloedd yma’n llai atyniadol i droseddwyr.
Rydyn ni’n gwybod bod gwella diogelwch cartrefi yn helpu i atal troseddwyr rhag cyflawni troseddau yn y gymdogaeth benodol honno.
Gall diogelwch gwell a mwy o CCTV helpu i leihau troseddu yn yr ardaloedd yma yn yr hir dymor hefyd.
Mae troseddau yn y gymdogaeth fel byrgleriaeth a dwyn yn effeithio’n fawr ar gymunedau.
Mae cynnydd mewn mathau eraill o droseddau hefyd yn tueddu i ddigwydd mewn ardaloedd lle mae lefel uchel o droseddau yn y gymdogaeth.
Rydyn ni’n gwybod bod mwy o ddiogelwch a CCTV ychwanegol i gartrefi a busnesau yn effeithiol iawn wrth atal troseddu.
Mae atal troseddau rhag digwydd yn y lle cyntaf yn well i gymunedau. Drwy dargedu ac atal troseddau yn y gymdogaeth gallwn ryddhau amser yr heddlu i ganolbwyntio ar droseddau eraill ac amddiffyn pobl sy’n agored i niwed yng Ngwent.