Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Aelodau ifanc o’r gymuned yw cadetiaid. Maen nhw rhwng 13 ac 18 oed ac maen nhw’n ymwneud ag amrywiaeth eang o weithgareddau a digwyddiadau. Yn ogystal â dysgu am weithdrefnau’r heddlu a’r gyfraith, mae cadetiaid yn chwarae rhan hollbwysig yn y gymuned hefyd, yn ymgysylltu â’r cyhoedd ac yn rhoi cyngor iddynt ynghylch sut i atal trosedd.
Byddwn yn derbyn ceisiadau gan bobl ifanc sy’n dechrau ym mlwyddyn 9 ysgol uwchradd yn y mis Medi yn dilyn yr ymgyrch rectiwtio.
I wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen gais yma.
Anfonwch y ffurflen wedi ei llenwi at [email protected].
Rydym ni wedi ymrwymo i fod â gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Wrth wneud hyn, rydym yn annog unigolion o’n cymunedau anabl ac LHDT i ystyried cyfleoedd yn y dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm gweithredu cadarnhaol.
Mae rôl Cadét yn hynod o amrywiol a byddwch yn datblygu amrywiaeth eang o sgiliau wrth gael hwyl a helpu eich cymuned leol. Mae cadetiaid yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored cyffrous fel rafftio dŵr gwyn, gwyliau penwythnos a gwersylloedd haf yn ogystal â helpu mewn digwyddiadau cymunedol a phatrolio ar droed mewn digwyddiadau lleol.
Mae rhaid i ddarpar gadetiaid fod yn 13 oed ar adeg eu penodi a heb fod yn hŷn na 18 oed, ac yn awyddus iawn i gymryd rhan yn eu cymunedau yn ogystal â datblygu eu gwybodaeth a'u profiad drwy weithgareddau tîm a hyfforddiant.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais cadét a holiadur meddygol.
Yn rhan o’r broses recriwtio bydd yn rhaid i bob ymgeisydd gael eu gwirio gan yr heddlu i sicrhau nad oes euogfarnau na chysylltiadau troseddol a allai eu hatal rhag dod yn gadét.
Gofynnir i gadetiaid nodi pa uned y byddent yn dymuno ymuno â hi ar y ffurflen gais. Ar ôl pasio’r cam gwirio, cewch eich ychwanegu at restr aros ar gyfer eich yr uned honno. Pan fyddwn wedi derbyn y nifer angenrheidiol o ymgeiswyr ar gyfer carfan, fe fyddwn ni’n cysylltu â chi’n uniongyrchol i roi gwybodaeth i chi am ymuno.
Mae Unedau Cadetiaid wedi'u lleoli yng Nghasnewydd, Cwmbrân, y Fenni, Caerffili a Glynebwy. Caiff yr unedau eu rhedeg gan swyddogion a Gwirfoddolwyr NxtGen ynghyd â Swyddogion Cymorth Cymunedol o Dimau Plismona yn y Gymdogaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yng Ngwent, cysylltwch â [email protected].
Dilynwch ni ar Twitter, @GPNXTGEN, i gael mwy o wybodaeth am y gwaith mae ein cadetiaid a’n swyddogion Heddlu Bach yn ei wneud yng nghymunedau Gwent.
Os oes gennych chi gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost atom.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a X i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses recriwtio a gweithgareddau'r heddlu yn eich ardal chi.