Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:07 09/12/2020
Rydym yn ceisio dod o hyd i yrrwr car a wrthdarodd a cherddwr yn ardal Glyn Ebwy brynhawn ddoe, dydd Mawrth 8fed Rhagfyr.
Digwyddodd tua 4.40pm ar y gylchfan rhwng Ystâd Ddiwydiannol Cwmdraw a Heol Gibbons yn Newtown.
Cafodd y cerddwr, menyw 52 oed, anafiadau difrifol ac aethpwyd â hi i’r ysbyty lle mae hi’n derbyn triniaeth ar hyn o bryd.Ni wnaeth y car, lliw arian, aros a pharhaodd i yrru i gyfeiriad Newtown.
Gofynnir i unrhyw un â delweddau camera car neu a oedd yn yr ardal ar y pryd ffonio’r heddlu ar 101, gan ddyfynnu 2000445872, neu gallwch anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter. Gallwch ffonio Crimestoppers 0800 555 111 hefyd.