Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar y ffordd yn Nhredegar.
Cafodd swyddogion eu galw i wrthdrawiad rhwng cerddwr a Ford Fiesta ST gwyn ar Beaufort Road ddydd Sul, 29 Tachwedd am tua 3.30am.
Aethpwyd â'r cerddwr, dyn 61 oed o Dredegar, i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr critigol.
Cafodd dyn 22 oed o Dredegar ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus ac mae wedi ei ryddhau tra bod yr ymchwiliad ac ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Rydym yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad ac yn apelio am unrhyw dystion i ddod ymlaen.
Mae gan swyddogion ddiddordeb arbennig mewn siarad â pherchennog cerbyd lliw tywyll a oedd yn gyrru ar hyd Beaufort Road yn fuan ar ôl y gwrthdrawiad ac a allai gynorthwyo gyda’r ymholiadau.
Gofynnir i unrhyw un a allai fod wedi pasio'r gwrthdrawiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth a allai gynorthwyo'r ymchwiliad gysylltu â ni.
Gallwch wneud hynny drwy ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2000434091 neu fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Gellir rhoi gwybod am wybodaeth hefyd drwy neges uniongyrchol ar ein tudalennau Facebook a Twitter.