Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn i’r cyhoedd fod yn ymwybodol a chadw golwg am arwyddion y gall rhywun fod yn dioddef cam-drin domestig dros gyfnod y Nadolig.
Dywed Prif Uwch-arolygydd Nicky Brain: “Y llynedd roedd mwy na 9,000 o droseddau cam-drin domestig yng Ngwent. Rydym yn gwybod bod digwyddiadau o gam-drin domestig yn cynyddu dros gyfnod y Nadolig.
“Ein neges i unrhyw un sy’n dioddef cam-drin domestig yw - peidiwch â dioddef yn dawel. Gofynnwn yn daer arnoch chi i riportio beth sy’n digwydd er mwyn i ni allu eich helpu chi.
“Rwy’n gwybod y gall fod yn anodd i chi riportio digwyddiad ond hoffwn dawelu meddwl unrhyw un sy’n ystyried gwneud hynny bod ystod gyfan o gefnogaeth ar gael, nid yn unig gan yr heddlu ond gan asiantaethau partner hefyd.
“’Dyw cam-drin domestig ddim yn gwahaniaethu – gall unrhyw un ddioddef, beth bynnag yw ei oedran, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol neu gefndir cymdeithasol. Nid yw’n drosedd y gellir ei gweld yn amlwg bob amser, gellir ei chuddio.
“Rydym yn cydnabod y bydd pawb ohonom yn dathlu’r Nadolig yn wahanol eleni oherwydd yr argyfwng iechyd parhaus ond, yn awr yn fwy nag erioed, mae angen i ni edrych ar ôl ein gilydd. Os ydych chi’n pryderu bod aelod o’r teulu, ffrind neu gydweithiwr yn dioddef cam-drin domestig, codwch eich llais.
“Mae mynd i’r afael â cham-drin domestig yn flaenoriaeth i Heddlu Gwent o hyd. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth wrth gefnogi aelodau mwyaf bregus ein cymunedau.”
Gall cam-drin domestig fod ar sawl ffurf, gan gynnwys:
Mae arwyddion y gall rhywun fod yn dioddef cam-drin domestig yn cynnwys:
Os ydych chi’n dioddef, neu’n pryderu am rywun rydych yn ei adnabod, gallwch ffonio llinell gymorth Byw Heb Ofn am ddim i gael cyngor a chefnogaeth 24/7:
Ffôn: 0808 80 10 800
Neges destun: 078600 77 333
Gallwch ffonio Heddlu Gwent ar 101 hefyd neu anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter. Ffoniwch 999 mewn argyfwng.