Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyn nos Galan, mae’r Prif Gwnstabl Pam Kelly yn gofyn i gymunedau helpu i atal lledaenu COVID:
“Mae nos Galan bob amser yn adeg brysur ar gyfer plismona a byddwn yn parhau i gynnal presenoldeb amlwg ledled Gwent.
“Mae cyfyngiadau newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu na fydd ffrindiau a theuluoedd yn cael dod at ei gilydd i ddathlu’r flwyddyn newydd. Mae rhybudd lefel pedwar yn golygu y dylai pobl aros yn eu cartrefi eu hunain a dim ond teithio pan fo hynny’n angenrheidiol.
“Ynghyd â’n partneriaid, rydym yn gofyn i bobl Gwent wneud yr hyn sy’n iawn ar gyfer eu cymuned a dathlu mewn modd gwahanol eleni drwy aros gartref.
“Hoffwn hefyd atgoffa’r bobl hynny sy’n ystyried ymweld â’n mannau hardd poblogaidd i aros ac ystyried yr hyn y maent yn ei wneud.
“Mae lefelau Coronafeirws yn dal i fod yn uchel ar draws llawer iawn o ardaloedd Gwent, a thrwy ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru rydym ni i gyd yn achub bywydau ac yn diogelu’r GIG.”